Nain a thaid yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr
- Cyhoeddwyd
Mae nain a thaid bachgen ifanc o Sir y Fflint wedi ymddangos o flaen llys wedi eu cyhuddo o'i lofruddio.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Ethan Ives Griffiths, oedd yn ddwy oed, wedi ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref y ddau yn Garden City, Glannau Dyfrdwy ar 14 Awst 2021.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Countess of Chester cyn iddo gael ei symud i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle bu farw yn sgil anaf i'r ymennydd.
Yn ogystal â chyhuddiad o lofruddiaeth, mae Michael Ives, 46, a Kerry Ives, 45, y ddau o Garden City, wedi eu cyhuddo o ymosod ac esgeuluso.
Fe wnaeth y ddau ymddangos yn y llys fore Mercher drwy gyswllt fideo.
Cafodd cais Mr a Ms Ives am fechnïaeth ei wrthod gan y barnwr Rhys Rowlands.
Mae mam Ethan, Shannon Kayleigh Ives, 27, o'r Wyddgrug, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o achosi neu adael i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol ac ymosod, cam-drin, esgeuluso neu adael plentyn gan achosi dioddefaint neu anaf.
Mae disgwyl iddi hi fynd o flaen llys ynadon ar 4 Ebrill, tra bod disgwyl i'r tri diffynnydd ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 17 Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth