'Sefyllfa anoddaf i gynghorau sir ers cyfnod llymder'
- Cyhoeddwyd
Dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf i gynghorau sir ei hwynebu ers cyfnod llymder, yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd.
Mae pob sir yng Nghymru bellach wedi gosod eu cyfraddau treth cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, wrth ddod i delerau â'r setliad ariannol a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Dyfrig Siencyn nad oes gan gynghorau ddewis ond torri ar wasanaethau neu gynyddu'r dreth er mwyn gallu gosod cyllideb hafal.
"Pe bai ni ddim yn codi'r dreth byddai'n rhaid i ni edrych am £25m allan o'n gwasanaethau ni... Ond dwi'n cadarnhau mai dyma'r sefyllfa waethaf un 'da ni wedi ei brofi ers dechrau cyfnod llymder," meddai.
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Siencyn - sydd hefyd yn lefarydd cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - bod sawl cyngor ar y dibyn ariannol.
"Mae'n rhaid i gynghorau osod cyllidebau sydd yn hafal bob blwyddyn, mae'n rhan o'u cyfrifoldeb statudol nhw a dau ddewis sydd gennym ni.
"Yng Ngwynedd, o ran y bwlch ariannol - 'dan ni wedi gweld cynnydd yn ein costau ni o £25m yn y flwyddyn ddiwethaf. Chwyddiant a'r cynnydd mewn galw ar wasanaethau ydi hynny.
"Ac i ariannu hynny un ai mae'n rhaid i ni dorri ar wasanaethau, drwy arbedion neu doriadau, neu mae'n rhaid i ni godi'r dreth.
"'Dan ni wedi treulio misoedd yn ystyried sut i fwrw 'mlaen, ac yn ymgynghori gyda'n holl aelodau, a dyma'r casgliad gorau allen ni gael. 'Dan ni'n codi'r dreth 9.5% ac yn gwneud toriadau wedyn ar draws pob gwasanaeth yn y cyngor i ddod a ni i le cyfartal."
Cyngor Sir Penfro sydd wedi cymeradwyo'r cynnydd mwyaf mewn treth cyngor, o ran canran, o holl siroedd Cymru - sef 12.5%.
Dywedodd y cyngor bod y cynnydd yn rhannol oherwydd bod angen mwy o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n wynebu pwysau "digynsail".
Beth am weddill cynghorau Cymru?
Abertawe - Cynnydd o 5.99%
Blaenau Gwent - Cynnydd o 4.95%
Bro Morgannwg - Cynnydd o 6.7%
Caerdydd - Cynnydd o 6%
Caerffili - Cynnydd o 6.9%
Casnewydd - Cynnydd o 8.5%
Castell Nedd Port Talbot - Cynnydd o 7.9%
Ceredigion - Cynnydd o 11.1%
Conwy - Cynnydd o 9.67%
Sir Ddinbych - Cynnydd o 9.34%
Sir Fynwy - Cynnydd o 7.8%
Sir y Fflint - Cynnydd o 9%
Gwynedd - Cynnydd o 9.54%
Sir Gaerfyrddin - Cynnydd o 7.5%
Merthyr Tudful - Cynnydd o 8%
Pen y Bont ar Ogwr - Cynnydd o 9.5%
Penfro - Cynnydd o 12.5%
Powys - Cynnydd o 7.5%
Rhondda Cynon Taf - Cynnydd o 4.99%
Torfaen - Cynnydd o 4.95%
Wrecsam - Cynnydd o 9.9%
Ynys Môn - Cynnydd o 9.5%
Ychwanegodd Mr Siencyn mai diffyg cyllido ar lefel cenedlaethol yw'r broblem sylfaenol.
"Yn ein hachos ni dwi'n credu ein bod ni'n llwyddo i amddiffyn y gwasanaethau hanfodol am y tro... a dyma'r peth mae pob cynghorydd yn ymrwymo iddo, sef ceisio cefnogi'r bobl fregus.
'Dim dewis'
"Rheini ydi'r pethau mawr i mi sydd o dan fygythiad oherwydd y diffyg cyllido gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol... fanno mae'r broblem.
"Fe glywsom ni'r canghellor yn traethu ei gyllideb diwrnod o'r blaen, dim yr un geiniog ychwanegol i gefnogi gwasanaethau lleol ar draws y wlad
"Beth mae hynny ei wneud yw trosglwyddo'r baich i lywodraethau lleol, ac yna maen nhw'n rhoi'r bai ar lywodraeth leol am godi'r dreth. Ond yn y bôn does gennym ni ddim dewis."
Nododd hefyd y dylai unrhyw un sydd yn cael trafferth talu'r dreth gysylltu â'r cyngor sir ar unwaith.
Dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu cyflwyno oherwydd bylchau yng nghyllidebau cynghorau.
"Mae'n fater o geisio cadw cydbwysedd rhwng toriadau i wasanaethau a gwneud pethau yn fwy effeithiol. Mae'n rhaid meddwl am sut i godi'r dreth heb fynd yn rhy bell.
"Mae'n her fawr iawn i bob cyngor achos un ai mae'r dreth yn codi, neu mae'r gwasanaeth yn cael ei dorri - yr unig ffordd o wneud yn siŵr bod y gyllideb yn hafal yw drwy leihau gwariant."
Ychwanegodd: "Os awn ni nôl i gyfnod tebyg i ryw ddegawd yn ôl pan roedd cyllidebau'n cael eu torri, yna dwi'n ofni y bydd cynghorau yng Nghymru, ac yn bendant rhai yn Lloegr, yn mynd yn fethdalwyr.
"Os yw'r drefn bresennol o ran cyllido gwasanaethau cyhoeddus yn parhau, yna o fewn blwyddyn, efallai dwy, dwi'n meddwl y gwelwn ni awdurdod lleol yng Nghymru yn cyrraedd y pwynt hwnnw."
Mewn datganiad blaenorol, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ers datganoli rydym wedi parchu cyfrifoldeb awdurdodau lleol ac nid ydym wedi defnyddio pwerau i gapio'r dreth gyngor.
"Nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu setliad ariannu digonol i Gymru ac mae ein cyllideb y flwyddyn nesaf werth £1.3bn yn llai nag ar yr adeg ei gosodwyd, o ganlyniad i chwyddiant.
"Er ein bod wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn i aillunio ein cyllideb, rydym yn diogelu'r setliad craidd i lywodraeth leol drwy ddarparu'r cynnydd o 3.3%, sy'n uwch na'r 3.1% a addawyd y llynedd, gyda chyfanswm cyfraniad cyllid craidd blynyddol o £5.72bn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023