'Gofid meddwl' i staff cefnogi ysgolion rhanbarthol
- Cyhoeddwyd
Mae undeb athrawon wedi datgan "rhwystredigaeth a siom" ynglŷn â'r modd mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu gan "symud i ffwrdd" o gonsortia cefnogaeth rhanbarthol i ysgolion.
Ar hyn o bryd mae pum consortiwm neu bartneriaeth yn gweithio ar lefel rhanbarthol dros glwstwr o awdurdodau lleol i ddarparu cymorth ac i wella safonau addysgol.
Ym mis Ionawr fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg, dolen allanol, Jeremy Miles, ail ran adolygiad o'r broses gwella ysgolion.
Mae hwn yn cynnwys "ystyried rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg" er mwyn "targedu adnoddau yn y ffyrdd mwyaf priodol, effeithlon ac effeithiol".
Gyda'r mwyafrif o awdurdodau lleol a phenaethiaid ysgol wedi cwestiynu gwerth y consortia rhanbarthol, mae galwadau wedi bod i weithredu cynlluniau "sydd â ffocws mwy lleol", dolen allanol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC bod yr adolygiad diweddar "yn gwbl glir bod angen diwygio'r maes".
Ond er bod sawl un o fewn y sector addysg yn croesawu ad-drefnu'r system, mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru [UCAC] yn honni "nad yw oblygiadau'r newid sylfaenol wedi derbyn sylw digonol".
Ychwanegodd yr undeb ei fod yn "gyfnod anodd, ansicr a dyrys" ac yn un sy'n "peri gofid meddwl" i sawl un sy'n gweithio i'r consortia.
Mae'r BBC hefyd wedi clywed gan staff y gwasanaeth yn y gogledd sy'n pryderu am eu swyddi.
Disgwyl 'newid sylweddol'
Mae adroddiad i'r gweinidog addysg, dolen allanol wedi datgan pryderon gan awdurdodau lleol a phenaethiaid ysgol am werth y gwasanaethau rhanbarthol presennol.
Nodwyd bod "mwyafrif clir o'r awdurdodau o blaid archwilio symud i ffwrdd o'r trefniadau presennol" a bod penaethiaid ysgol wedi codi "pryderon difrifol" am y "gwerth a ychwanegir" ganddynt.
Y pum consortiwm yw:
Consortiwm Canolbarth y De (CCD): Yn gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg;
Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA): Yn gwasanaethu Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen;
Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE): Yn gwasanaethu Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam;
Partneriaeth: Yn gwasanaethu Sir Gâr, Sir Benfro ac Abertawe;
Partneriaeth Canolbarth Cymru (PACC): Yn gwasanaethu Powys a Cheredigion.
Mae staff sy'n gweithio i'r gwasanaeth yn y gogledd eisoes wedi derbyn llythyr yn rhybuddio bod disgwyl "newid sylweddol yn y ffordd y mae trefniadau gwella ysgolion yn debygol o weithredu yn y dyfodol".
Dywedodd Jeremy Miles, yn ei ddatganiad ar 31 Ionawr, dolen allanol, bod disgwyl i ail gam yr adolygiad barhau tan fis Awst 2024, ac wedi hynny bydd y Grŵp Cydlynu yn cytuno ar y strategaeth arfaethedig.
"Rwy'n disgwyl y bydd yna gamau pellach i'r gwaith o ran pontio ag unrhyw drefniadau newydd a gynigir," meddai.
"Er mwyn sicrhau parhad y gefnogaeth i ysgolion wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen, byddwn yn disgwyl i unrhyw drefniadau gweithio rhanbarthol presennol barhau yn ystod y cyfnod hwn."
'Cwbl annerbyniol'
Ond mewn llythyr at Gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd mae Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC wedi disgrifio'r broses fel un "cwbl annerbyniol".
Gan gyfeirio at "drefniadau newydd" a'r "disgwyliad" o "symud i ffwrdd o fodel cymorth rhanbarthol ehangach", dywedodd Ioan Rhys Jones bod aelodau o'r undeb sy'n gweithio i'r pum consortia yn "hynod rhwystredig a siomedig na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar unrhyw newidiadau posibl".
Ychwanegodd "ni chafwyd unrhyw arwydd ymlaen llaw gan ein haelodau bod datganiad mor bellgyrrhaeddol am gael ei ryddhau ar y prynhawn o dan sylw" a bod staff consortia oedd yn gweithio mewn ysgol y prynhawn hwnnw wedi "cael gwybod am y bwriad i ddifodi'r consortia drwy law athrawon ac arweinwyr ysgolion".
Yn ôl Mr Jones roedd hyn yn "gwbl annerbyniol" ac wedi "peri gofid meddwl i sawl un o'n haelodau".
Mae'r undeb wedi galw ar y pwyllgor i graffu ar y broses ac i "nodi pa mor hyderus y maen nhw y bydd y trefniadau arfaethedig yn darparu gwell cefnogaeth i ysgolion".
Mae'r undeb hefyd am wybod beth yw costau unrhyw newid gan gynnwys "costau diswyddo staff a chau i lawr trefniadau presennol awdurdodau lleol".
Maen nhw hefyd yn gofyn am waith i sefydlu "beth yw'r sylfaen dystiolaeth i roi hyder i'r pwyllgor mai ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i hunan reoleiddio eu gwelliant eu hunain".
Dywedodd yr undeb mewn datganiad bod y trefniadau a gyhoeddwyd "yn disgwyl sefydlu partneriaeth rhwng mwy nag un awdurdod" ac yn "symud i ffwrdd o fodel cymorth rhanbarthol ehangach".
Roedd hefyd pwyslais ar yr angen i "gynnig cefnogaeth fydd cystal, os nad gwell, nâ'r hyn sydd yn cael ei gynnig ar hyn o bryd".
"Mae UCAC hefyd yn awyddus i sicrhau bod unrhyw fodelau newydd gaiff eu sefydlu yn darparu cefnogaeth lawn i bob ysgol, beth bynnag eu hiaith addysgu a lle bynnag y bônt," medd y datganiad.
'Angen diwygio'r maes'
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y cyllid ar gyfer y cwricwlwm a dysgu proffesiynol yn parhau i fynd i bartneriaid rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau sefydlogrwydd.
Ychwanegodd llefarydd: "Roedd yr adolygiad diweddar yn gwbl glir bod angen diwygio'r maes hwn er mwyn cyrraedd y safonau y mae UCAC a'r sector addysg yn fwy eang yn disgwyl eu gweld.
"Ar 31 Ionawr cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gyfnod o drafod gyda'n holl bartneriaid addysg ar sut y byddai'r newid hwn yn cael ei weithredu, i ddod â chyllid yn nes at ysgolion ac adeiladu partneriaethau cryfach ar lefel leol.
"Mae'r trefniadau newydd hyn yn canolbwyntio ar wella safonau addysgol, lleihau llwyth gwaith a gwella gwerth am arian.
"Mae pob partner yn rhan o'r broses gan gynnwys arweinwyr ysgolion, partneriaid rhanbarthol ac awdurdodau lleol.
"Bydd y cyfnod hwn o drafod yn ymestyn i haf 2024 ac ar ôl hynny bydd cynigion ar gyfer partneriaethau newydd yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cydlyniant Cenedlaethol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017