Ateb y Galw: Elin Wyn Williams
- Cyhoeddwyd
Mae Elin Wyn Williams yn berchennog busnes ffitrwydd, Winning with a Y, ac yn hyfforddwraig ffitrwydd personol sy'n ceisio helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon a bodlon.
Elin sy'n ateb rhai o gwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Yn dal llaw Mam tra'n gwylio Dad yn gwasgaru gwellt i'r gwartheg. Dw i'n cofio oedd e'n rial oer ond reit cosy yng ngoleuni spotlights y sied.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Yr ardd rhosod, Parc y Rhath yng Nghaerdydd. Dw i'n dwli ar hustle and bustle y ddinas ond mae yna rhywbeth hollol llonydd am orwedd yng nghanol y rhosod a phodlediad Jay Shetty yn y cefndir.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
O waw. Anodd. Un sydd yn dod i'r meddwl yw'r Radio 1 Big Weekend gyda fy nghariad a ffrindiau ym mharc Abertawe. Undod mewn sgrechen!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Meddylgar, gofalgar ac outgoing.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Atgofion fi a fy mrawd yn dynwared enwogion - fy hoff rai i oedd allan o Nyth Cacwn neu Carry On Cruising "two flow dears". Hilarious.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Arwain llo Wncwl Brian yn farchnad Caerfyrddin a dyma'r llo yn cael ei arswydo a mynd yn hollol boncyrs. Cefais fy llusgo ar draws y farchnad!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Gwylio fy nghariad yn crïo yn angladd ei Ddadcu.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Rwy'n gorfeddwl.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
I Thought It Was Just Me (But It Isn't) gan Brené Brown. Roedd yn foment aha - yn sydyn roedd popeth yn 'neud synnwyr.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Beirniadu Dawnsio Disgo Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023. Yn sicr, gwireddais fy mreuddwyd i feirniadu. Ond yr hyn mae'r llun wir yn ei gynrychioli yw'r hyn sy'n bwysig. I gofio bod angen gwytnwch a thrwy ddyfalbarhad, fe allwch chi wireddu eich breuddwydion. Creda yn dy hun Elz fach.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Fi fy hun yn 15 mlwydd oed. Mi fydden i eisiau rhoi cwtsh mawr iddi a sicrhau fod hi'n deall fod hi'n ddigon.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae sŵn pobol yn bwyta yn uchel yn fy ngwylltio. Ych!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gwario'r diwrnod gyda fy nghariad Jamie. Cerdded o Oxford Circus i Tower of London yn stopio bob hyn a hyn - coffi tu allan i St Paul's Cathedral, stwffio ein boliau yn Borough Market a gorwedd ym Mharc Whitehall yn gwylio'r byd yn mynd heibio a chlywed Big Ben yn taro yn y cefndir.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Rachel Green sef cymeriad Jennifer Aniston ar set Friends ym mhennod The One With The Football. Mae'r bennod yma yn edrych fel hollol laff!
RADIO CYMRU - Y Frwydr Fawr: Cymru a Streic y Glowyr
RADIO CYMRU 2 - Dewis: Tara Bandito
PODLEDIAD - Esgusodwch Fi: Y cyfarwyddwr Euros Lyn