Sul y Mamau: Dathlu gefeilliaid newydd wedi poen IVF

  • Cyhoeddwyd
EfeiliaidFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Kate a Rhys Ritchie-Lewis gyda'u gefeilliaid, Eirian a Gwenllian

Mae cwpl o'r Rhondda yn dweud bod siarad yn agored am IVF wedi bod yn "help" wrth iddyn nhw fynd drwy'r driniaeth.

I Kate a Rhys Ritchie-Lewis, roedd aros i gael IVF yn ystod y pandemig a chymhlethdodau meddygol wedi effeithio'n fawr ar eu hiechyd meddwl.

Wedi cyfnod "anodd", mae'r athrawon wedi croesawu dwy ferch, Eirian Alaw a Gwenllian Awel i'r byd, yn dilyn triniaeth gan y gwasanaeth iechyd.

Ond wrth ddathlu Sul y Mamau am y tro cyntaf gyda'u plant, mae'r rhieni newydd yn gobeithio dechrau sgwrs am y broses "galed iawn", gan feddwl am y rhai sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd.

'Methu symud ymlaen'

Fe dreuliodd Kate a Rhys dros chwe blynedd yn ceisio beichiogi cyn penderfynu dechrau triniaeth IVF.

Ond roedd cyfyngiadau'r pandemig wedi golygu bod y cynlluniau ar gyfer y driniaeth IVF wedi gorfod newid.

"Chi ddim yn byw" wrth aros am y driniaeth, meddai Kate, "chi mewn limbo".

"O'n i methu symud ymlaen gyda phethau ac o'dd hwnna wedi achosi problemau i'r ddau ohonon ni a'n hiechyd meddwl.

"Chi'n 'neud profion drwy'r amser a chi'n gweld 'negatif' eto - mae e yn cymryd toll arnoch chi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eirian a Gwenllian eu geni saith wythnos yn gynt na'r disgwyl

Mae Kate, 38, yn agored am ei phenderfyniad i gael cwnsela, gan ddweud ei bod hi "ddim yn un i guddio" o realiti'r sefyllfa.

Fe benderfynodd rannu ei phrofiad gyda BBC Radio Cymru ar Sul y Mamau 2021.

"O'n i'n rhannu'r stori achos o'dd hwnna'n helpu fi," meddai'r fam newydd, sy'n cydnabod bod eraill yn penderfynu peidio rhannu eu profiadau.

Mae Kate yn diolch i'r gyflwynwraig Elin Fflur am fod yn gyhoeddus am ei phrofiad hi o IVF, gan ddweud bod dilyn ei stori wedi ei chynorthwyo'n fawr.

Ym mhrofiad y cwpl, mae pobl yn ei chael hi'n anodd siarad am y driniaeth, gyda rhai yn cynnig cymorth fel awgrymu iddi ymlacio.

"Mae rhaid bod e'n anodd iddyn nhw wybod beth i ddweud," meddai Kate.

Ond yn ôl Rhys, mae "dealltwriaeth pobl ar y cyfan" o realiti cael IVF wedi gwella.

"O'dd e'n gallu bod yn really anodd ar adegau a heb fynd drwy hynny sbo', byddai'n anodd gwybod."

'Lysh gael y driniaeth yn y Gymraeg'

Yn 2023 fe ddechreuodd Kate a Rhys driniaeth IVF drwy'r gwasanaeth iechyd, wedi blynyddoedd o aros a gobeithio.

"Diwrnod ar ôl Sul y Tadau a phen-blwydd Rhys, aethon ni mewn i gymryd yr wyau," meddai Kate.

Roedd y meddygon wedi llwyddo cael chwe wy o gorff Kate, gydag un yn ffrwythloni wedi'r driniaeth.

"O'dd e'n lysh gael y driniaeth yn y Gymraeg," meddai Kate, wrth gyfeirio at yr embryolegydd wnaeth ei thrin.

Bu'n rhaid i'r cwpl aros "pythefnos hir" cyn gwneud prawf i weld os oedd Kate yn feichiog.

"O'n i'n convinced bod rhywbeth yn mynd i fynd o le," meddai Kate am y profiad o gael ei sgan cyntaf.

Ond wedi misoedd o driniaethau, fe ddysgodd Kate a Rhys bod gefeilliaid ar y ffordd, gyda'r meddygon yn disgwyl iddyn nhw gyrraedd ar Sul y Mamau 2024.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kate a Rhys benderfynu cael triniaeth IVF ar ôl dros chwe blynedd yn ceisio beichiogi

Ar ôl misoedd o sganiau, roedd y gefeilliaid wedi cyrraedd saith wythnos yn gynt na'r disgwyl.

Wedi genedigaeth heriol, fe dreuliodd Eirian a Gwenllian wythnosau yn yr uned arbenigol i fabanod sy'n cael eu geni'n gynnar.

"Yn amlwg, mae cael efeilliaid yn lot fwy o risg," meddai Kate.

Mae'r cwpl yn rhoi clod i'r gwasanaeth iechyd, gan ddiolch i bob aelod o staff am y gofal a chyngor mae'r teulu wedi'i dderbyn dros y blynyddoedd.

"Byswn i'n newid dim," meddai Rhys wrth gyfeirio at y blynyddoedd diwethaf o geisio beichiogi.

Y poen 'byth am fynd i ffwrdd'

Er y boen, meddai'r cwpl, maen nhw'n "ddiolchgar" ac yn "teimlo'n lwcus" am eu profiadau.

"Nhw yw'r canlyniad," meddai Rhys, gan wenu ar Gwenllian ac Eirian yn gorwedd yn eu cot.

"O'n i'n eu caru nhw cyn i' nhw hyd yn oed fodoli."

Er y cyffro o ddathlu ei Sul y Mamau cyntaf eleni, mae Kate yn dweud ei bod hi'n dal i gario poen y gorffennol ar y diwrnod hwn.

"Dwi ddim yn mynd i anghofio yr amser yna, y blynyddoedd lle roedd gweld y pethau yna yn boenus.

"Dyw hwnna byth yn mynd i fynd i ffwrdd."

Pynciau cysylltiedig