Rhybudd chwiorydd am gyflwr calon prin all fod yn farwol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rebecca ac Angharad Lewis yn trafod y cyflwr SCAD sy'n achosi trawiad ar y galon

Mae dwy chwaer a gafodd drawiad ar y galon o fewn dyddiau i'w gilydd yn dweud bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o gyflwr all achosi marwolaeth.

Fe gafodd Rebecca Lewis o Gaerdydd drawiad o ganlyniad i gyflwr SCAD (Spontaneous Coronary Artery Dissection), ac mae'n debygol iawn mai dyna oedd achos trawiad ei chwaer Angharad dridiau'n ddiweddarach.

Er yn anghyffredin, SCAD yw un o brif achosion trawiad ar y galon mewn menywod iau, iach.

Mae'n digwydd pan fod haenau mewnol prif wythiennau'r galon yn dod yn rhydd gan rwystro llif y gwaed ac achosi trawiad.

Mae 90% o gleifion SCAD yn fenywod.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn barod i gydweithio ar ymchwil i gyflyrau prin gyda phartneriaid ar draws y Deyrnas Unedig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rebecca ei bod hi'n lwcus fod yr ymgynghorydd yng Nghaerdydd wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr SCAD

Roedd Rebecca, sy'n athrawes, yn marcio gwaith yn ei dosbarth ym mis Tachwedd pan deimlodd hi bwysau mawr ar ei brest.

Aeth pennaeth yr ysgol â hi i'r ysbyty lle cafodd hi wybod ei bod hi wedi cael trawiad.

Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach fe ddangosodd prawf angiogram iddo gael ei achosi gan SCAD.

Yn ôl Rebecca roedd hi'n lwcus fod yr ymgynghorydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr SCAD yn Ysbyty Glenfield yng Nghaerlŷr.

"Fe 'naeth yr angiogram i fi, ac yn amlwg roedd e'n gallu gweld wedyn y SCAD ar y sgrin yn glir, achos oedd e'n gw'bod beth oedd e'n edrych amdano fe," meddai.

"Ond os bydde rhywun yn 'neud yr angiogram oedd ddim wedi gweld hwn o'r blaen, yna mae'n bosibl y bydden nhw 'di colli fe."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angharad nad oedd staff iechyd yr oedd hi yn delio â nhw yn ymwybodol o'r cyflwr

Y bore ar ôl ymweld â'i chwaer yn yr ysbyty fe gafodd Angharad drawiad, ac awgrymodd angiogram mae SCAD oedd wedi'i achosi iddi hi hefyd.

Cafodd ei thrin mewn gwahanol ysbyty, ond roedd ei chwaer fawr yn mynnu ei bod hi'n cael ei phrofi am SCAD.

"Roedden nhw'n hapus i fi fynd adre," meddai Angharad.

"Roedd Rebecca wedi siarad efo'r doctor yng Nghaerdydd a wedodd e 'na, mae'n rhaid i ti ddod fan hyn i gael y prawf'.

"Es i lawr i Gaerdydd yn yr ambiwlans, ac er bo' SCAD fi'n llai amlwg, maen nhw bron yn sicr bo' fi wedi cael yr un profiad - so rhwyg yn yr arteri sydd wedi achosi'r bloc.

"Oeddwn i yr un peth - lefel colesterol yn iawn, pwysau gwaed yn iawn - jyst bod y rhwyg yn rhwystro digon o waed i fynd i'r galon."

'Fe allech chi golli achos'

Er yn brin mae SCAD yn effeithio gan fwyaf ar fenywod yn eu 40au a 50au, a menywod sydd newydd gael babi.

Mae ymchwilwyr yn ceisio deall rôl hormonau yn y cyflwr.

Disgrifiad o’r llun,

"Os dy'ch chi ddim yn meddwl amdano fe [SCAD] yna fe allech chi golli achos ohono fe," medd yr Athro David Adlam

Mae 2,000 o gleifion yn rhan o'r ymchwil yn Ysbyty Glenfield yng Nghaerlŷr dan arweinyddiaeth yr Athro David Adlam.

Mae e'n dweud y byddan nhw'n gweld 500 o gleifion newydd cyn diwedd y flwyddyn, ac mae'n poeni nad yw arbenigwyr meddygol yn gwybod digon am SCAD.

"Ry'n ni'n trio annog cydweithwyr ar draws y gwasanaeth iechyd i ystyried SCAD, oherwydd os dy'ch chi ddim yn meddwl amdano fe yna fe allech chi golli achos ohono fe," meddai.

"Chi'n trin trawiad arferol trwy osod stent yn y wythïen sydd wedi cau. Mae'n rhaid trin cleifion SCAD yn wahanol.

"Mae'r wythïen yn gorfod gwella ar ei phen ei hun, a'r rheswm am hynny yw fod yr hyn sy'n achosi trawiad SCAD yn wahanol i'r hyn sy'n achosi trawiad arferol."

Gan ei fod yn gyflwr prin, mae ymchwil genetaidd yn anodd. Bydd cael dwy chwaer yn rhan o'r astudiaeth yn help.

"Mae'r teuluoedd yma'n allweddol oherwydd maen nhw'n ein galluogi ni i ddeall beth yw'r gwendidau yn y genynnau, ac wrth reswm mae deall hynny yn mynd i'n helpu ni i ddod o hyd i driniaeth addas," meddai'r Athro Adlam.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Angharad gyda'i phlant Olly ac Esme

A hwythau'n ddwy fam mae Rebecca ac Angharad yn dweud ei bod hi'n bwysig cymryd rhan yn yr ymchwil.

"Achos bo' plant 'da'r ddwy ohono' ni, a os y'n nhw mas yn chwarae rygbi neu beth bynnag, ac allen nhw gael profiad tebyg - mae'n bwysig bo' ni yn ymwybodol beth all ddigwydd," meddai Rebecca.

'Wedi bod yn anodd iawn'

Yn y cyfamser maen nhw'n dal i geisio dod i delerau â'r hyn ddigwyddodd iddyn nhw, gan wybod y gallai ddigwydd eto.

"Mae wedi bod yn anodd iawn i fi i fod yn onest," meddai Angharad.

"Mae'r ferch 'da fi yn anabl. Oeddwn i ddim yn gallu codi hi felly fy mhartner i sydd wedi gorfod codi hi.

"Dwi'n teimlo'n flin dros mam a dad - y ddwy ohono' ni [yn sâl] o fewn cwpl o ddiwrnodau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad a Rebecca yn dweud ei fod wedi bod yn gyfnod pryderus i'r teulu cyfan

Ychwanegodd Rebecca: "O'n i'n ffodus y tro cynta' bo' fi yn yr ysgol a phobl o gwmpas i helpu.

"Nhw 'naeth achub fi tro cynta', ond dwi wastad yn poeni os bydde fe'n digwydd 'to - os bydden i ar ben fy hunan, beth fydde'n digwydd?

"Dwi wedi cael band meddygol nawr jyst i esbonio bo fi'n glaf SCAD."

'Pwysig dysgu amdano'

Mae'r ddwy yn dweud ei bod hi'n bwysig codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

"Ro'n i'n siarad gyda staff yn yr ysbyty yn gweud bod Beca wedi cael diagnosis o SCAD," meddai Angharad.

"Ro'n nhw'n gofyn 'beth yw hwnna' so o'n i'n synnu, ond mae'n rhaid bod e mor newydd - mae mor bwysig bo' pobl yn dysgu amdano fe a bod meddygon yn ymwybodol."

Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd cael Rebecca ac Angharad yn rhan o'r astudiaeth yn help mawr

Elusen Beat SCAD sy'n ariannu ymchwil yn y maes, er mae Llywodraeth Yr Alban hefyd yn rhedeg cynllun peilot.

Mae'r Athro Adlam yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth.

"Fy neges i, i'r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, yw 'meddyliwch sut allwch chi helpu cleifion sydd â'r cyflwr yma'.

"Caren i weithio gyda ffrindiau a chydweithwyr yng Nghymru i sicrhau fod y cleifion yma yn cael y gofal cywir."

'Barod i gydweithio'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i GIG Cymru ddarparu gofal "yn unol â chanllawiau proffesiynol gan sefydliadau fel NICE".

"Ar gyfer cyflyrau'r galon sy'n fwy prin, mae GIG Cymru yn barod i gydweithio â chyfoedion ar draws y DU ar ymchwil," meddai.

"Rydyn ni hefyd wedi egluro sut ry'n ni'n disgwyl i GIG Cymru ddarparu gwasanaethau cardiaidd ac wedi diweddaru'r cynllun gweithredu ar gyfer clefydau prin er mwyn cynnwys ffocws ar hyrwyddo gofal mwy cydgysylltiedig a gwella mynediad at driniaeth."

Pynciau cysylltiedig