'Bydd 20mya yn cael ei weld fel y penderfyniad cywir'

  • Cyhoeddwyd
Lee WatersFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lee Waters yn rhoi'r gorau i'w swydd fel gweinidog trafnidiaeth fis yma

Mae'r gweinidog oedd yn gyfrifol am gyfraith 20mya Cymru yn dweud ei fod yn credu fod "y llanw wedi troi" ar y newid dadleuol.

Bydd Lee Waters yn rhoi'r gorau i'w swydd fel gweinidog trafnidiaeth fis yma - fel y mae pob gweinidog pan fydd prif weinidog newydd yn cymryd yr awenau.

Ond dywedodd "a bod yn realistig", ni fydd y prif weinidog eisiau ef yn y rôl.

Bydd yn ymddiswyddo'n swyddogol pan fydd Vaughan Gething neu Jeremy Miles yn cael eu cadarnhau fel arweinydd nesaf Llafur Cymru y penwythnos nesaf.

Yn siarad ar Radio Wales fore Sul dywedodd Mr Waters nad oedd y polisi 20mya "erioed am fod yn berffaith", ond ei fod yn hyderus y bydd yn cael ei weld fel "y peth iawn i wneud".

Teitl swyddogol Mr Waters yw'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad ar wefan X - Twitter gynt - ddydd Llun cadarnhaodd Mr Waters y byddai'n dileu ei gyfrif pan fydd yn gadael ei rôl drafnidiaeth.

"Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydw i wedi treulio gormod o amser ar Twitter," meddai.

"Fe stopiodd fod yn hwyl ychydig yn ôl, ond nawr rwy'n cael pentwr o sylwadau cas ar gyfer hyd yn oed y negeseuon mwyaf diniwed."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o arwyddion 20mya wedi cael eu fandaleiddio ers i'r newid gael ei gyflwyno

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement dywedodd: "A bod yn realistig, dydw i ddim yn meddwl y bydd unrhyw brif weinidog newydd eisiau i mi aros yn gyfrifol am drafnidiaeth, ac mae hynny'n ddigon teg.

"Dwi'n cydnabod hynny, ac yn derbyn fod y byd yn symud 'mlaen."

Dywedodd nad oedd yn siŵr a fyddai eisiau bod yn weinidog eto, gan ddweud ei fod yn teimlo'n "reit battered" gan y pum mlynedd ddiwethaf.

'Byth am fod yn berffaith'

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd adolygiad o sut mae'r polisi 20mya yn gweithio, sydd wedi cael cefnogaeth y ddau ymgeisydd i fod yn brif weinidog.

Bydd yn canolbwyntio ar sut mae'r terfyn cyflymder newydd wedi cael ei gyflwyno, ond ni fydd yn adolygiad o'r polisi ei hun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau wedi bod yn erbyn y newid, a'r ddeiseb fwyaf poblogaidd erioed wedi'i chyflwyno i'r Senedd

Dywedodd Mr Waters ddydd Sul: "Mae pawb yn dweud mai'r cyfathrebu oedd ar fai - nid y polisi - ond dydw i ddim yn credu hynny.

"Roedd hwn yn newid enfawr i ddiwylliant ac yn ymarferol, ac yn amlwg, fe allai cyflwyno'r gyfraith fod wedi bod yn well.

"Doedd e byth am fod yn berffaith, ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod 97% o bobl, am yr ail fis yn olynol, yn cadw at y terfyn cyflymder.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn delio gyda'r peth yn ddistaw. Rwy'n gwybod bod ein gwrthwynebwyr eisiau gwneud rhywbeth o'r peth, ond rwy'n credu bod y nifer sy'n cefnogi hynny yn gostwng.

"Rydyn ni chwe mis i mewn, ac rwy'n credu bod y llanw wedi troi.

"Rwy'n hyderus y bydd hyn yn cael ei weld fel y peth iawn i wneud, ond doedd e byth am fod yn boblogaidd yn y tymor byr."