RAAC: Annog teuluoedd yn Hirwaun i adael eu cartrefi

  • Cyhoeddwyd
NenfwdFfynhonnell y llun, Trivallis
Disgrifiad o’r llun,

Dangosodd arolwg fod peryg go iawn i'r to a'r nenfwd mewn dau dŷ

Mae 40 o deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf wedi cael cyngor i adael eu cartrefi ar ôl i swyddogion ddarganfod olion concrit RAAC mewn tai yno.

Dywedodd cymdeithas dai Trivallis fod problem wedi dod i'r amlwg mewn tai maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw yn Hirwaun.

Dangosodd arolwg fod peryg go iawn i'r to a'r nenfwd mewn dau dŷ, ond penderfynodd Trivallis gynghori pobl i adael 38 o dai eraill tebyg.

Mae'n ymddangos hefyd fod y broblem yn effeithio ar bedwar tŷ sydd dan berchnogaeth breifat.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu'r ffordd mae Trivallis wedi ymateb yn gyflym i'r sefyllfa, er mwyn sicrhau bod pobl yn ddiogel.

"Bydd ein swyddogion yn gweithio'n agos gyda Trivallis a'u partneriaid wrth i'r sefyllfa ddatblygu."

Ffynhonnell y llun, Trivallis

Mae aelodau o staff cymdeithas dai Trivallis yn yr ardal yn siarad â phobl sy'n byw yno ac maen nhw'n cynnig llety dros dro i bobl sy'n gadael eu cartrefi wrth iddyn nhw gynnal rhagor o brofion.

Dywedodd Prif Weithredwr Trivallis, Duncan Forbes: "Rydyn ni'n deall bod hyn yn frawychus ac yn achosi trafferth i bobl, ond eu diogelwch nhw ydi'r flaenoriaeth i ni.

"Dyna pam rydyn ni'n cynghori pobl i adael eu cartrefi."

Ychwanegodd y gymdeithas y byddan nhw'n gweithio'n agos iawn gyda phreswylwyr yn ystod y dyddiau nesaf er mwyn asesu anghenion pob unigolyn a'u hailgartrefu mor fuan â phosib.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl sydd yn gadael eu cartrefi yn cael cynnig llety mewn gwesty gerllaw

"Rydyn ni'n deall yn llwyr pa mor ddifrifol ydi'r sefyllfa a'r effaith ar drigolion ac rydyn ni'n ymateb i anghenion pobl fydd yn gorfod gadael eu cartrefi.

Mae'r trigolion a fydd yn gadael eu cartrefi yn cael cynnig llety mewn gwesty gerllaw.

Beth yw RAAC?

Mae 70% o goncrit RAAC (reinforced autoclaved aerated concrete) yn swigod aer ac mae 'na ofnau y gallai ddirywio wedi oddeutu 30 o flynyddoedd a chwympo'n ddirybudd.

Disgrifiad,

Beth yw concrit RAAC a pham ei fod yn beryglus?

Mae'r concrit wedi ei ddarganfod mewn adeiladau yng Nghymru, gan gynnwys rhai ysgolion a Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

'Neb wedi symud allan eto'

Christine yw un o'r preswylwyr ble mae RAAC wedi ei nodi fel problem yn dilyn arolwg.

"Mae pawb yma mewn sioc," meddai. "Mae'n frawychus achos dydyn ni ddim eisiau gadael ein cartrefi.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Christine bod hi a rhai o'i chymdogion yn ansicr ynghylch symud o'u cartrefi

"Maen nhw wedi cynnig llety i ni, ond fydde hynny'n golygu gadael ein cartrefi ac ein holl bethau ynddyn nhw."

Dywedodd bod neb wedi symud allan eto, er gwaethaf rhybudd y gymdeithas dai.

"Roedden ni gyd am symud yfory ond mae'r bobol o nghwmpas i wedi penderfynu nawr i aros nes bod rhaid i ni fynd."

'Sioc, panig...'

Dywedodd y Cynghorydd Adam Owain Rogers, sy'n cynrychioli ward Hirwaun, Penderyn a Rhigos ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, ei fod wedi dod i wybod am y sefyllfa mewn ebost gan y gymdeithas dai yn gynnar nos Lun.

Roedd trigolion, meddai, mewn "sioc, panig [a] ddim wir yn deall beth yw'r sefyllfa".

Disgrifiad o’r llun,

Mae preswylwyr yn dal yn dod i delerau â'r cyngor i adael eu cartrefi, yn ôl y Cynghorydd Adam Owain Rogers

Mae Trivallis, meddai, yn bwriadu "bod yma drwy'r wythnos, gan roi gymaint o wybodaeth â phosib i roi sicrwydd i drigolion eu bod yn gweithio ar y broblem".

Mae "cartrefi gwahanol wedi eu heffeithio mewn ffyrdd gwahanol", dywedodd, ac fe allai preswylwyr gael eu rhoi mewn gwestai lleol tra bo'r mater yn cael ei ddatrys.

Ond fe ychwanegodd "bod yna ansicrwydd ar y foment, oherwydd pa bryd gafodd pobol wybod, ac mae pobol wedi dweud wrthom ni nad ydyn nhw eisiau symud".