Yr Hendy: Teyrnged i ddynes 'oedd wastad yn garedig'

  • Cyhoeddwyd
Alice SmithFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Alice Smith ar ol gwrthrawiad ar y B4306 ger Hendy

Mae teulu dynes fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddi.

Roedd Alice Smith yn seiclo ar y B4306 ger Yr Hendy pan fu mewn gwrthdrawiad gyda char Seat Ibiza coch, ddydd Sadwrn, 9 Mawrth.

Dywedodd y teulu bod gan y ddynes 31 oed "bob amser wên a wastad yn garedig gyda phawb".

Cafodd y dyn oedd yn gyrru'r Seat Ibiza coch ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

'Roedd hi'n farchoges ddawnus'

"Roedd Alice yn paratoi ar gyfer triathalon yn Barcelona eleni ac roedd hi ar ei ffordd i Langyndeyrn pan fu farw," meddai ei theulu.

"Roedd Alice ar ei hapusaf ymhlith ei ffrindiau agos, ei chydweithwyr a'i chylch marchogaeth."

Fe wnaethon nhw ychwanegu ei bod yn "farchoges dressage ddawnus... oedd yn mynd i gystadlu yn rowndiau terfynol Petplan yn Addington Manor gyda'i cheffyl annwyl Tess".

"Mae colli Alice wedi gadael twll enfawr yn ein bywydau a phawb oedd yn ei hadnabod."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd Alice ar ei hapusaf ymhlith ei ffrindiau agos, ei chydweithwyr a'i chylch marchogaeth"

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y Seat Ibiza coch wedi gyrru o Bontyberem i Drefach, cyn gyrru ar y B4310 tuag at Y Tymbl.

Fe aeth ymlaen ar yr A476 cyn troi ar y B4306 tuag at Yr Hendy rhwng 13:15 a 14:00.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu sydd â lluniau cylch cyfyng o'r car cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig