Ateb y Galw: Steffan Evans
- Cyhoeddwyd
Y digrifwr o Eglwyswrw, Steffan Evans sydd newydd fod ar daith yr Hileri-bws o amgylch Cymru sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Roedd Steffan yn rhan o daith gomedi Elis James yn 2017 a 2019 ac mae hefyd wedi perfformio ar sioeau comedi S4C, 'Gwerthu Allan' ac 'O'r Diwedd'.
Dyma ddod i'w adnabod ychydig yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fi'n cofio brawd fi'n gwthio fi yn y push chair yn gyflym iawn lawr heol fach ar bwys tŷ ni. O ni tua thair oed ar y pryd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llwyfan yn y Glee Club ym Mae Caerdydd. Fi'n mwynhau pob eiliad fi arno fe. Does dim teimlad fel e. Mae e fel sky-dive ond dyw'r gynulleidfa dim yn dod atoch chi ar 120mya.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn act gefnogol i Elis James yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin. Oedd 650 o bobl yna i weld Elis ond fe ges i 25 munud o chwerthin ohonyn nhw ac roedd e'n brofiad cofiadwy iawn.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ffwlbart, doniol a gorllewinol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Fi'n cofio bod yn 6 neu 7 oed a Dad yn mynd â fi a fy mrawd gyda fe i'r gwaith ar building site. Fydde chi ddim yn gallu neud yna dyddiau yma. Health & Safety bois! Nes i ofyn i Mam tua blwyddyn yn ôl os oedd hi'n ofn a oedd rhywbeth gwael yn mynd i ddigwydd i ni? Wnaeth hi egluro i fi drwy ddweud ei bod hi'n hapus i gael sawl awr o heddwch o' ni gyd.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ffrind fi 'Hairy' yn pigo fi lan o soffa a rhoi fi mewn plât o curry mewn parti yn nhŷ fy ffrind.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Nes i wylio'r ffilm The Man Who Killed Hitler and Then the Bigfoot. O'n i ddim yn disgwyl crïo ond erbyn diwedd y ffilm roedd llifogydd yn dod o'r llygaid. Y ffilm diwetha o ni'n disgwyl crïo ar ôl ei gwylio.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fi'n rhoi gormod o halen ar sglods fi. Unrhyw beth i osgoi unrhywun eu dwyn nhw i fod yn onest. Ni yn y gorllewin yn joio sglodion ar ein halen.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Y ffilm, Big Trouble in Little China. O'n i'n arfer rhentu'r ffilm gan fenyw o'r enw Mags oedd gyda boot car llawn ffilmiau VHS.
Roedd hi'n dod rownd yn ei Austin Metro City aur. Fi'n cofio Mam yn gofyn i Mags bob wythnos, 'Gallwn ni rhentu honna am wythnos arall plîs Mags?' Roedd bod yn blentyn mor rhwydd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Fydden ni wrth fy modd yn cael diod gyda'r athronydd Alan Watts. I fi, y dyn mwya diddorol sydd byth wedi byw. Fydden ni yn sgwrsio am ddyddiau.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae cefnder enwog iawn gyda fi sy wedi bod mewn ffilm Marvel.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Fe fydden ni yn gweud diolch i bawb sy'n bwysig i fi a gweud pa mor bwysig maen nhw wedi bod i fi.
Wedyn eistedd mewn hot tub gyda'r Mrs a mwynhau'r haul yn machlud a gwylio'r sêr nes mae'r dydd neu'r byd yn gorffen. Job done bois.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o oleuadau traffig sy'n dangos y tri lliw coch, ambr a gwyrdd ar yr un amser. Mae e'n metaffor/trosiad da am fywyd.
Ambell waith chi ddim yn siŵr os mae rhaid stopio aros neu fynd amdani mewn bywyd. Defnyddiwch eich barn ac ymddiried i wneud y penderfyniad sy'n gywir neu sydd orau i chi.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Mike Tyson. Fydde neb yn rhoi stŵr i fi.
RADIO CYMRU - Y Frwydr Fawr: Cymru a Streic y Glowyr
RADIO CYMRU 2 - Dewis: Tara Bandito
PODLEDIAD - Esgusodwch Fi: Y cyfarwyddwr Euros Lyn