Yr 'eicon o Gofi' Emrys Llewelyn wedi marw yn 71 oed
- Cyhoeddwyd
![Emrys Llewelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4EAE/production/_132924102_5492c7d2-e97b-47a2-a208-a2180305d897.jpg)
Cafodd Emrys Llewelyn ei ddisgrifio fel "eicon o Gofi" ar raglen Beti a'i Phobol
Mae'r awdur a'r hanesydd o Gaernarfon, Emrys Llewelyn Jones, wedi marw yn 71 oed.
Fe sefydlodd gwmni Ty'd am Dro Co yn 2009, oedd yn cynnal teithiau cerdded o amgylch atyniadau Caernarfon.
Ysgrifennodd lyfrau am hanes y dref hefyd yn Gymraeg - Stagio Dre a Da 'Di Dre - a'r Saesneg - A Covey's Tale.
Cafodd ei gyfweld ar raglen Beti a'i Phobol yn 2016, ble y cafodd ei ddisgrifio gan Beti George fel "eicon o Gofi".
Roedd yn briod gyda'r actores a'r awdures Mari Gwilym a ddywedodd brynhawn Iau ei bod "methu coelio ei bod i wedi'i golli fo".
![Emrys Llewelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1439A/production/_132924828_7949abb3-17b9-4cd6-9790-af7cf5154daa.jpg)
Bu Emrys Llewelyn yn tywys ymwelwyr ar deithiau o amgylch Caernarfon am dros 10 mlynedd
Cafodd ei eni a'i fagu yn ardal Maesincla yng Nghaernarfon, ac roedd yn cael ei adnabod fel "Jo Bach" gan rai o'i ffrindiau - enw a oedd yn gyfuniad o enw ei dad, a'r ffaith ei fod yn fyr o ran taldra.
Yn gefnogwr ac yn chwaraewr rygbi brwd, bu'n teithio'r byd fel aelod o dîm chwaraewyr hŷn Y Gogs (Geriatrics O Gymru).
'Distaw yma hebddo fo'
Yn siarad gyda'r Post Prynhawn ddydd Iau dywedodd Mari Gwilym y byddai ei gŵr eisiau cael ei gofio fel "storïwr llafar".
"Roedd o'n dipyn o dywysydd tref, a hanesydd lleol, a fysa'n mwynhau cael ei gofio felly," meddai.
"Mi oedd o hefyd yn argraffydd - ac roedd o'n dod o linach o argraffwyr.
"Oedd o'n meddwl y byd o Gaernarfon, ac yn dadlau efo pobl Dinbych, yn dweud mai Caernarfon oedd 'prifddinas yr inc'!
"Roedd o hefyd yn meddwl y byd o Glwb Mynydda Cymru - roedd o wrth ei fodd yn cerdded mynyddoedd Cymru."
![Emrys Llewelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/134C2/production/_132924097_1d53b25f-360a-42ee-99cb-da1b1c96f638.jpg)
Roedd Emrys Llewelyn yn cael ei adnabod fel "Jo Bach" gan rai o'i ffrindiau
Ychwanegodd: "Dwi'm yn gallu coelio 'mod i wedi'i golli fo - mi fydd hi'n ddistaw yma hebddo fo.
"Dwi 'di cael 40 o flynyddoedd gwych efo fo, a dwi'n trysori be ges i."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2024