Siom nad oes lle i draean plant Hamadryad yng Nglantaf

  • Cyhoeddwyd
Ysgol HamadryadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gymraeg Hamadryad wedi ei lleoli yn Nhrebiwt, un o ardaloedd tlotaf y brifddinas

Mae Cyngor Caerdydd wedi ei feirniadu ar ôl i blant yn un o ysgolion cynradd Cymraeg newydd y ddinas fethu â chael lle yn ysgol uwchradd eu dalgylch.

Dydy bron i draean plant dosbarth chwech Ysgol Gymraeg Hamadryad yn Nhrebiwt ddim wedi cael lle yn Ysgol Glantaf, er iddyn nhw fynychu sesiynau pontio i'w paratoi nhw ar gyfer mynd yno.

Mae ymgyrchwyr oedd yn rhan o'r frwydr i sefydlu'r ysgol yn dweud bod y cyngor yn esgeuluso plant yn ardal dlota'r brifddinas.

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud bod yna ddigon o lefydd ar gael ar draws ysgolion uwchradd Cymraeg y brifddinas.

'Rhyfedd dros ben'

Mae'r cyngor wedi cadarnhau fod pump allan o 16 o blant Hamadryad a geisiodd am le yng Nglantaf, wedi cael cynnig lle yn Ysgol Gyfun Plasmawr yn y Tyllgoed.

Mae'n benderfyniad "rhyfedd dros ben", yn ôl Cian Ciaran. Dyw mab y cyn-aelod o'r grŵp Super Furry Animals ddim wedi cael lle yng Nglantaf.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mab Cian Ciaran ddyddiau pontio gydag Ysgol Glantaf, ond nid yw wedi cael lle yno

"Siom enfawr really ac annisgwyl fod hyn 'di digwydd, fedrwch chi ddychmygu'r siom fod y plant 'di cael cyfleoedd diwrnodau pontio gydag ysgolion clwstwr Glantaf a 'di mynd i Langrannog.

"Mae'n taro fi'n rhyfedd dros ben, yr agosa' ydych chi'n byw i'r ysgol gynradd, y lleia' tebygol ydych chi o gael lle yn yr ysgol uwchradd er eu bod nhw yn yr un dalgylch."

Roedd Huw Williams yn flaenllaw yn yr ymgyrch i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Trebiwt a Grangetown ddegawd yn ôl.

Mae'n dweud y bydd 60 o blant yn nosbarth chwech Hamadryad ymhen ychydig flynyddoedd, ac wedi beirniadu'r cyngor am beidio â chynllunio ar gyfer twf addysg Gymraeg.

"O ran twf a sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael o fewn y gymuned i blant ledled Caerdydd, mae hwn yn enghraifft dda o ble mae'r cyngor yn methu ac yn anffodus mae'r sefyllfa yn mynd i waethygu oni bai bod y cyngor yn mynd i'r afael â fe y flwyddyn hon."

Mae Cyngor Caerdydd yn cydnabod bod niferoedd Hamadryad yn uwch y flwyddyn nesaf, ond yn dweud y bydd niferoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill yn gostwng gan gydbwyso'r niferoedd.

'Rhaid meddwl yn ddwys am y dyfodol'

Elin Maher yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac mae hi'n poeni y bydd rhai rheini yn tynnu eu plant allan o addysg Gymraeg.

"Dyw hwnna ddim yn cyd-fynd gyda gweledigaeth y sir a dyw hynny ddim yn cyd-fynd gyda gweledigaeth Llywodraeth Cymru", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n cryfhau galwadau am sefydlu ysgol Gymraeg arall, meddai Elin Maher

"Twf y'n ni moyn ac mae 'na gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gynllunio'n fwriadus ar gyfer y twf ac ar gyfer y niferoedd sydd yn y cymunedau.

"Ry' ni fel mudiad wedi bod yn gofyn i'r sir am gynlluniau ar gyfer pedwaredd ysgol gyfun Gymraeg.

"Mae hyn yn arwydd clir bod rhaid i Gaerdydd feddwl yn ddwys nawr ynglŷn â sut mae'r paratoadau hynny yn mynd i gael eu cyflymu."

Ffynhonnell y llun, Google

Mae BBC Cymru'n deall nad yw rhai o blant ysgol gynradd Gymraeg arall, Pwll Coch, wedi cael lle yng Nglantaf chwaith, ac nad yw plant o ysgol gynradd Saesneg Mount Stuart wedi cael lle yn Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Mae Huw Williams yn poeni fod plant yn un o ardaloedd tlota'r brifddinas yn cael eu hesgeuluso.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Williams yn flaenllaw yn yr ymgyrch i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yn ne Caerdydd

"Bydden i yn codi cwestiynau ynghylch argaeledd addysg uwchradd yn ne'r ddinas", meddai.

"Dwi ddim yn meddwl ei fod e'n gyd-ddigwyddiad nad oes yna ysgol uwchradd yma.

"Mae 'na dair yng ngogledd y ddinas ac yn hynny o beth bydden i'n gofyn lle mae'r arweiniad gwleidyddol ar y mater yma."

'Y galw'n amrywio'

Wrth ymateb fe ddywedodd y cyngor fod yna 18 o lefydd ar gael yn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg y brifddinas, a bod gan deuluoedd tan 15 Mawrth i nodi dewis arall os nad oedden nhw wedi cael lle yn eu dewis cyntaf.

"Mae'r galw yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn", meddai'r cyngor, "ond ar y cyfan mae niferoedd plant mewn addysg Gymraeg wedi syrthio eleni ac mae disgwyl iddo wneud eto dros y ddwy flynedd nesaf.

"Eleni mae 'na fwy nag arfer yn ceisio am lefydd mewn ysgolion uwchradd o ganlyniad i dwf mewn genedigaethau rhwng 2008 a 2016.

"Ry' ni wedi cynyddu maint 10 ysgol dros dro neu yn barhaol i ateb y galw hwnnw.

"Os nad oes yna le ar gael mewn ysgol Gymraeg o fewn tair milltir i gartref plentyn yna fe fyddan nhw'n cael cludiant am ddim i'r ysgol Gymraeg agosaf sydd â lle."