Pryder nad oes digon o le yn ysgolion Cymraeg Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni yn Abertawe'n dweud eu bod poeni na fydd lle i'w plant yn yr ysgol Gymraeg leol.
Bydd Bethan Packer, 29 o Gasllwchwr, yn cofrestru ei merch yn nosbarth meithrin yr ysgol agosaf yng Ngorseinon yn ystod yr wythnosau nesaf, er nad yw hi'n dri mis oed eto.
"Mae'r ysgol yn orlawn - ni 'di clywed straeon yn barod am un fam oedd â phlentyn dwy oed wnaeth ddim cael lle yn yr ysgol leol," dywedodd Bethan.
Dywedodd ei chwaer, sydd hefyd â phlentyn llai na thri mis oed, ei bod eisoes yn ystyried ysgolion sy'n bellach o'r cartref.
Fe ddangosodd y Cyfrifiad diweddaraf mai Abertawe oedd yr unig sir yng Nghymru lle roedd cynnydd yn nifer y plant oedd yn gallu siarad Cymraeg.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi disgrifio blynyddoedd o ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn yr ardal fel "hanes o oedi a rhwystredigaeth".
Dywedodd Cyngor Sir Abertawe eu bod am weld ehangu yn niferoedd y disgyblion sy'n cael addysg Gymraeg yn y sir ond bod angen buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion ar hyd Cymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru "agor ysgolion Cymraeg newydd a chynyddu capasiti lle mae galw uchel am addysg Gymraeg" yw eu nod yn y 10 mlynedd nesaf.
Roedd dros 480 o blant - heb gynnwys niferoedd y dosbarth meithrin - ar gofrestr Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin yng Ngorseinon fis Medi diwethaf, ac mae o fewn 5% o fod yn orlawn.
Mae dwy ysgol arall - YGG Bryn-y-môr yng nghanol y ddinas a Llwynderw yn Y Mwmbwls - hefyd o fewn 10% o fod yn orlawn.
Mae gan Bethan a'i chwaer, Carys Williams, 31, o ardal Gorseinon fabanod sy'n llai na thri mis ac maen nhw'n poeni'n barod.
"[Mae'n] stressful. Ni'n famau newydd, dyw'r babis ddim yn dri mis oed eto, ond ni'n gorfod meddwl am roi eu henwau nhw lawr yn barod i wneud yn siŵr bo' ni'n gallu mynd mewn," dywedodd Carys.
"Ma' rhaid i ni edrych ar opsiynau sy'n bellach i ffwrdd wrthom ni."
Ychwanegodd Bethan: "Ein partneriaid ni hefyd, dyw nhw ddim yn siarad Cymraeg, aethon nhw i ysgolion Saesneg.
"Felly ni'n ceisio dweud wrthyn nhw, 'na, mae'n rhaid iddyn nhw gael addysg Gymraeg'.
"A maen nhw'n dweud 'wel, mae'r ysgol yn orlawn'."
Blwyddyn a hanner yn ôl fe ddywedodd corff arolygu addysg Estyn bod angen i'r sir gryfhau ei darpariaeth addysg Gymraeg.
Fe gyhoeddodd Cyngor Abertawe gynigion yr wythnos ddiwethaf ynghylch buddsoddiad posib o £400m yn addysg y sir dros y naw mlynedd nesaf.
Mae'r adroddiad yn cydnabod yr angen i gynyddu niferoedd y disgyblion sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae hefyd yn nodi pedair ardal sydd angen eu blaenoriaethu o ran addysg cyfrwng Cymraeg yn dilyn arolwg diweddar, sef Penllergaer a Gorseinon; Sgeti, Cliâ a Dynfant; Townhill, Mayhill a Waun-wen; ac ardal St Thomas a Phort Tennant.
'Oedi a rhwystredigaeth'
Ond yn ôl grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg, fe gyflwynon nhw adroddiad yn nodi bylchau yn yr union ardaloedd hynny wyth mlynedd yn ôl.
"Ma' holl hanes ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn Abertawe ers 30 mlynedd yn hanes o oedi a rhwystredigaeth," meddai cadeirydd y grŵp yn Abertawe, Heini Gruffudd.
"Yr hyn sy'n dda yw bod yr ysgolion yn llawn - mae'n dangos bod galw am addysg Gymraeg."
Ychwanegodd fod esiamplau da yn ardaloedd Casnewydd a Wrecsam o ran agor ysgolion Cymraeg newydd.
"Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn golygu bod cyfyngu ar addysg Gymraeg Abertawe. Yr unig ddatrysiad yw mwy o ysgolion."
Mae'r cynghorydd sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Sir Abertawe yn cydnabod fod cynlluniau addysg Gymraeg wedi bod yn araf.
"Wy'n teimlo'r rhwystredigaeth. Bydden i wedi hoffi gweld cynlluniau'n mynd ymlaen ymhell cyn hyn," dywedodd y Cynghorydd Robert Smith.
"Mae'r ysgolion yn mynd yn fawr ond yn y [cynigion] sydd gyda ni, y'n ni'n edrych ar ardal gorllewin Abertawe.
"'Wy ddim eisiau gweld bai ar Lywodraeth Cymru nag ar ein hunain mewn gwirionedd achos y'n ni'n trial cadw'r blaidd o'r drws o ran darpariaeth a gwneud cymaint ag y gallwn ni gyda'r adnoddau sydd gyda ni.
"Ond y gwir yw, ma' 'isie buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion ac mewn adeiladau ysgolion ar hyd a lled Cymru."
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones na ddylai rhieni orfod "brwydro" er mwyn cael addysg Gymraeg i'w plant.
"Ni angen symud o sefyllfa lle mae rhieni yn gorfod brwydro, yn gorfod pryderu am addysg Gymraeg i'w plant, i sefyllfa lle yng Nghymru, o fewn pellter hwylus o unrhyw riant newydd, bod modd i chi gael addysg Gymraeg," meddai.
"Nid dyna lle ydyn ni heddi. Mae'r sefyllfa wedi datblygu yn sicr dros y cyfnod diwethaf, ond mae llawer mwy i'w wneud os ydyn ni am weld mwy a mwy o rieni yn dewis addysg Gymraeg i'w plant.
"Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir iawn, lle mae 'na ysgol Gymraeg wedi'i sefydlu o fewn pellter hwylus i bobl, mae'r canran sy'n derbyn addysg Gymraeg yn uwch.
"Dyw hynny ddim syndod. Os ydych chi'n rhiant newydd dydych chi ddim am deithio gyda'ch plentyn ar draws dinas neu ddegau o filltiroedd i ffwrdd.
"Felly mae'n gwbl synhwyrol ein bod ni nawr yn cynllunio o ddifrif er mwyn agor a datblygu ysgolion mewn ardaloedd lle nad oes ysgolion Cymraeg ar gael."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Abertawe (CSCA), sy'n amlinellu cynlluniau'r sir i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe o 15% i hyd at 23-27% dros y 10 mlynedd nesaf.
"Mae hyn yn cynnwys agor ysgolion Cymraeg newydd a chynyddu capasiti lle mae galw uchel am addysg Gymraeg.
"Mae ardal Casllwchwr a Gorseinon wedi'i hadnabod fel ardal i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ac mae'r sir yn cydweithio gyda'r datblygwyr tai i wireddu hynny.
"Fel pob sir yng Nghymru, mae Cyngor dinas a sir Abertawe wrthi yn paratoi cynlluniau cyfalaf ysgolion 9-mlynedd, fydd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w hasesu erbyn 31 Mawrth 2024.
"Disgwylir i'r cynlluniau hynny adlewyrchu eu hymrwymiadau CSCA.
"Ein huchelgais yw bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg lle bynnag, ac ym mha bynnag ysgol y maen nhw'n dysgu.
"Y llynedd fe wnaethom ymgynghori ar gynigion a fydd yn sail i Fil Addysg Gymraeg. Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi pob disgybl yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Byddwn yn adrodd ar gasgliadau'r ymgynghoriad yn fuan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022