'Tynnu mab byddar o ysgol Gymraeg er mwyn cael help'

  • Cyhoeddwyd
Hogg
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Hogg, 16, a'i dad, Richard, yn eu cartref yn Yr Wyddgrug

Mae teulu a symudodd eu mab o ysgol Gymraeg i un Saesneg er mwyn cael y cymorth oedd ei angen arno, yn dweud bod angen rhagor o athrawon arbenigol i blant byddar.

Fe wnaeth Richard Hogg a'i wraig y penderfyniad "anodd" i symud eu mab, Matthew, o ysgol Gymraeg yn Sir y Fflint am nad oedd athrawon cymwys ar gael yn Gymraeg.

Daw wrth i gorff sy'n cynrychioli athrawon i'r byddar annog y llywodraeth i ail-ystyried cynllun o 2008 wnaeth gynyddu nifer yr athrawon cymwys.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i wella sgiliau'r gweithlu addysg gan gynnwys y ddarpariaeth i blant sydd â nam ar eu clyw.

'Penderfyniad anodd ofnadwy'

Yn byw gyda chyflwr Syndrom Crouzon, cafodd Matthew Hogg, 16 oed, ei eni'n fyddar. 

Cafodd fewnblaniad yn y cochlea i'w alluogi i glywed, a chafodd gymorth athrawon arbenigol a therapyddion i ddysgu siarad o oedran ifanc iawn. 

Ond doedd y staff hynny ddim yn medru siarad Cymraeg ac felly pan oedd yn hyn, penderfynodd ei rieni ei symud o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg.

Wrth sgwrsio yn y cartref yn Yr Wyddgrug, mae Richard Hogg yn cofio gwneud y dewis naw mlynedd yn ôl. 

"Oedd hwnna'n benderfyniad anodd ofnadwy. Oedden ni'n siarad Cymraeg adre. Mae gynno' ni ffrindiau a pherthnasau Cymraeg hefyd.

"Ond be' oeddem ni'n ffindio oedd bod y ddarpariaeth yn Sir y Fflint ddim ond trwy gyfrwng y Saesneg.

"O'n ni isio iddo fo fynd i ysgol Gymraeg, ond o' ni just yn gweld yn y dyfodol fyse pethau ddim yn newid."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Hogg bod y teulu wedi gorfod newid eu ffordd o fyw er mwyn cefnogi Matthew

Cafodd efaill Matthew, Elin, hefyd ei symud o'r ysgol gyda'i brawd. 

"Roedd rhaid i ni newid sut oedden ni'n byw fel teulu," medd Mr Hogg, "oherwydd hyd at y pwynt yna, oedden ni'n siarad Cymraeg yn gyfan gwbl adre efo Matthew a'i chwaer Elin."

"A wedyn oedd iaith y cartref wedi newid fwy i Saesneg i helpu Matthew, i'w gefnogi o yn yr ysgol Saesneg."

Fe ofynnodd BBC Cymru i Gyngor Sir y Fflint ymateb i sylwadau Mr Hogg.

2,260 o blant â nam clyw

Mae Athrawon i Blant a Phobl Ifanc Byddar yn athrawon cymwysedig sydd wedi gwneud cymhwyster ychwanegol ac yn gweithio gyda phlant, teuluoedd a darparwyr gofal ac addysg hyd at pan mae person yn 25 oed.

Gall y cymhwyster gostio £8,000 ac nid yw'r hyfforddiant ar gael yng Nghymru.

Mae deiseb ar wefan y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o arian i gynyddu nifer yr athrawon cymwys yma.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae data'n awgrymu bod nifer yr Athrawon i Blant a Phobl Ifanc Byddar wedi gostwng 17%, i 64 athro, ers 2011

Dywedodd corff sy'n cynrychioli athrawon i'r byddar, BATOD, eu bod yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar gynllun cyllido tymor byr oedd ganddyn nhw yn 2008 a lwyddodd i gynyddu nifer yr athrawon cymwys.

"Ers blynyddoedd, mae llywodraethau ym Mhrydain wedi cydnabod yr angen am hyfforddiant gorfodol i athrawon cymwys i'r byddar," meddai llefarydd.

"Mae'n hanfodol bod ysgolion yn cael eu cefnogi i recriwtio a chadw nifer yr athrawon cymwys yng Nghymru."

Yn ôl Cymdeithas y Plant Byddar (NDCS), roedd 2,260 o blant â nam ar eu clyw yng Nghymru yn 2022-23. 

Roedd 81% yn mynd i ysgol prif ffrwd ac fe gynyddodd nifer y disgyblion oedd yn defnyddio'r Gymraeg yn bennaf yn yr ysgol o 175 yn 2021, i 297 yn 2023. 

Ond mae arolygon hefyd yn awgrymu bod nifer yr Athrawon i Blant a Phobl Ifanc Byddar wedi gostwng 17%, i 64 athro, ers 2011. 

Does dim data ynglŷn â faint o'r athrawon sy'n medru'r Gymraeg.

"Yn bendant" does dim digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, meddai Richard Hogg.

"Mae gan bob plentyn hawl i gael addysg Gymraeg a darpariaeth arbenigol trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

"Ar gyfer Matthew, mae'n rhy hwyr. Ond faswn i'n hoffi gweld darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer therapi lleferydd ac athrawon i'r byddar, popeth ar gael os ydy teuluoedd angen o."

Disgrifiad o’r llun,

"Falle bod ni fod i fynd allan i addysgu plentyn un waith, dwy waith yr wythnos, ond ro'n ni'n methu," dywedodd Kristy Hopkins

Mae Kristy Hopkins yn gweithio fel Athrawes i Blant a Phobl Ifanc Byddar yn ne Cymru, ac mae'n dweud nad ydy hi a'i chydweithwyr yn medru cwrdd ag anghenion pob disgybl oherwydd pwysau gwaith. 

"Falle bod ni fod i fynd allan i addysgu plentyn un waith, dwy waith yr wythnos, ond ro'n ni'n methu.

"Achos bod cymaint o bwysau arnom ni, falle byddwn ni ond yn gallu gweld nhw unwaith y mis a dyw hwnna ddim yn ddigon.

"Mae'r plant yma angen yr athrawon arbenigol i sicrhau bod nhw'n cyrraedd y lefel maen nhw fod, so mae lot o bwysau arnom ni."

Disgrifiad o’r llun,

Kristy a'i merch Ffion Hâf, 14, a gafodd ei geni'n fyddar

Mae Kristy hefyd yn fam i Ffion Hâf, 14 oed, a gafodd ei geni'n fyddar. Mae Ffion Hâf yn cael ei addysgu gan yr unig athrawes cymwys Cymraeg arall mae Kristy yn gwybod amdani yn y de. 

"Fi'n gwybod taw just fi ac un athrawes arbenigol arall, just o ddwy ohonom ni sy'n gweithio yn ne Cymru sy'n gallu mynd i'r holl ysgolion i addysgu'r plant byddar yma."

"Felly does dim digon ohonom ni."

BSL yn y cwricwlwm

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio ar gyfer anghenion addysg ychwanegol, ond eu bod nhw wedi ymrwymo i wella sgiliau'r gweithlu addysg, yn cynnwys athrawon i blant a phobl ifanc byddar, fel bod pob dysgwr yn medru derbyn addysg o safon uchel a chyrraedd ei lawn botensial.

"Fe gafodd £300,000 ei ddosbarthu i awdurdodau lleol dros y tair blynedd diwethaf i gynorthwyo hyfforddiant ôl-radd ar gyfer athrawon arbenigol i ddysgwyr sydd â nam clyw," meddai llefarydd.

"Cymru ydy'r wlad gyntaf hefyd i gynnwys iaith arwyddo (BSL) yn ei chwricwlwm. Mae hyn yn cynorthwyo dysgu ac addysgu defnyddwyr byddar yn ogystal â rhoi'r cyfle i ysgolion ddewis cyflwyno BSL i ddisgyblion eraill."

Pynciau Cysylltiedig