'Tynnu mab byddar o ysgol Gymraeg er mwyn cael help'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu a symudodd eu mab o ysgol Gymraeg i un Saesneg er mwyn cael y cymorth oedd ei angen arno, yn dweud bod angen rhagor o athrawon arbenigol i blant byddar.
Fe wnaeth Richard Hogg a'i wraig y penderfyniad "anodd" i symud eu mab, Matthew, o ysgol Gymraeg yn Sir y Fflint am nad oedd athrawon cymwys ar gael yn Gymraeg.
Daw wrth i gorff sy'n cynrychioli athrawon i'r byddar annog y llywodraeth i ail-ystyried cynllun o 2008 wnaeth gynyddu nifer yr athrawon cymwys.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i wella sgiliau'r gweithlu addysg gan gynnwys y ddarpariaeth i blant sydd â nam ar eu clyw.
'Penderfyniad anodd ofnadwy'
Yn byw gyda chyflwr Syndrom Crouzon, cafodd Matthew Hogg, 16 oed, ei eni'n fyddar.
Cafodd fewnblaniad yn y cochlea i'w alluogi i glywed, a chafodd gymorth athrawon arbenigol a therapyddion i ddysgu siarad o oedran ifanc iawn.
Ond doedd y staff hynny ddim yn medru siarad Cymraeg ac felly pan oedd yn hyn, penderfynodd ei rieni ei symud o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg.
Wrth sgwrsio yn y cartref yn Yr Wyddgrug, mae Richard Hogg yn cofio gwneud y dewis naw mlynedd yn ôl.
"Oedd hwnna'n benderfyniad anodd ofnadwy. Oedden ni'n siarad Cymraeg adre. Mae gynno' ni ffrindiau a pherthnasau Cymraeg hefyd.
"Ond be' oeddem ni'n ffindio oedd bod y ddarpariaeth yn Sir y Fflint ddim ond trwy gyfrwng y Saesneg.
"O'n ni isio iddo fo fynd i ysgol Gymraeg, ond o' ni just yn gweld yn y dyfodol fyse pethau ddim yn newid."
Cafodd efaill Matthew, Elin, hefyd ei symud o'r ysgol gyda'i brawd.
"Roedd rhaid i ni newid sut oedden ni'n byw fel teulu," medd Mr Hogg, "oherwydd hyd at y pwynt yna, oedden ni'n siarad Cymraeg yn gyfan gwbl adre efo Matthew a'i chwaer Elin."
"A wedyn oedd iaith y cartref wedi newid fwy i Saesneg i helpu Matthew, i'w gefnogi o yn yr ysgol Saesneg."
Fe ofynnodd BBC Cymru i Gyngor Sir y Fflint ymateb i sylwadau Mr Hogg.
2,260 o blant â nam clyw
Mae Athrawon i Blant a Phobl Ifanc Byddar yn athrawon cymwysedig sydd wedi gwneud cymhwyster ychwanegol ac yn gweithio gyda phlant, teuluoedd a darparwyr gofal ac addysg hyd at pan mae person yn 25 oed.
Gall y cymhwyster gostio £8,000 ac nid yw'r hyfforddiant ar gael yng Nghymru.
Mae deiseb ar wefan y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o arian i gynyddu nifer yr athrawon cymwys yma.
Dywedodd corff sy'n cynrychioli athrawon i'r byddar, BATOD, eu bod yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar gynllun cyllido tymor byr oedd ganddyn nhw yn 2008 a lwyddodd i gynyddu nifer yr athrawon cymwys.
"Ers blynyddoedd, mae llywodraethau ym Mhrydain wedi cydnabod yr angen am hyfforddiant gorfodol i athrawon cymwys i'r byddar," meddai llefarydd.
"Mae'n hanfodol bod ysgolion yn cael eu cefnogi i recriwtio a chadw nifer yr athrawon cymwys yng Nghymru."
Yn ôl Cymdeithas y Plant Byddar (NDCS), roedd 2,260 o blant â nam ar eu clyw yng Nghymru yn 2022-23.
Roedd 81% yn mynd i ysgol prif ffrwd ac fe gynyddodd nifer y disgyblion oedd yn defnyddio'r Gymraeg yn bennaf yn yr ysgol o 175 yn 2021, i 297 yn 2023.
Ond mae arolygon hefyd yn awgrymu bod nifer yr Athrawon i Blant a Phobl Ifanc Byddar wedi gostwng 17%, i 64 athro, ers 2011.
Does dim data ynglŷn â faint o'r athrawon sy'n medru'r Gymraeg.
"Yn bendant" does dim digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, meddai Richard Hogg.
"Mae gan bob plentyn hawl i gael addysg Gymraeg a darpariaeth arbenigol trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
"Ar gyfer Matthew, mae'n rhy hwyr. Ond faswn i'n hoffi gweld darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer therapi lleferydd ac athrawon i'r byddar, popeth ar gael os ydy teuluoedd angen o."
Mae Kristy Hopkins yn gweithio fel Athrawes i Blant a Phobl Ifanc Byddar yn ne Cymru, ac mae'n dweud nad ydy hi a'i chydweithwyr yn medru cwrdd ag anghenion pob disgybl oherwydd pwysau gwaith.
"Falle bod ni fod i fynd allan i addysgu plentyn un waith, dwy waith yr wythnos, ond ro'n ni'n methu.
"Achos bod cymaint o bwysau arnom ni, falle byddwn ni ond yn gallu gweld nhw unwaith y mis a dyw hwnna ddim yn ddigon.
"Mae'r plant yma angen yr athrawon arbenigol i sicrhau bod nhw'n cyrraedd y lefel maen nhw fod, so mae lot o bwysau arnom ni."
Mae Kristy hefyd yn fam i Ffion Hâf, 14 oed, a gafodd ei geni'n fyddar. Mae Ffion Hâf yn cael ei addysgu gan yr unig athrawes cymwys Cymraeg arall mae Kristy yn gwybod amdani yn y de.
"Fi'n gwybod taw just fi ac un athrawes arbenigol arall, just o ddwy ohonom ni sy'n gweithio yn ne Cymru sy'n gallu mynd i'r holl ysgolion i addysgu'r plant byddar yma."
"Felly does dim digon ohonom ni."
BSL yn y cwricwlwm
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio ar gyfer anghenion addysg ychwanegol, ond eu bod nhw wedi ymrwymo i wella sgiliau'r gweithlu addysg, yn cynnwys athrawon i blant a phobl ifanc byddar, fel bod pob dysgwr yn medru derbyn addysg o safon uchel a chyrraedd ei lawn botensial.
"Fe gafodd £300,000 ei ddosbarthu i awdurdodau lleol dros y tair blynedd diwethaf i gynorthwyo hyfforddiant ôl-radd ar gyfer athrawon arbenigol i ddysgwyr sydd â nam clyw," meddai llefarydd.
"Cymru ydy'r wlad gyntaf hefyd i gynnwys iaith arwyddo (BSL) yn ei chwricwlwm. Mae hyn yn cynorthwyo dysgu ac addysgu defnyddwyr byddar yn ogystal â rhoi'r cyfle i ysgolion ddewis cyflwyno BSL i ddisgyblion eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022