Y Chwe Gwlad: sefyllfa gwaeth na 2003?
- Cyhoeddwyd
Wrth iddyn nhw wynebu 'ennill' y llwy bren, gohebydd chwaraeon BBC Cymru Cennydd Davies sy'n gofyn a ydi tîm rygbi Cymru yn debygol o atgyfodi a chael blynyddoedd llwyddiannus fel digwyddodd ar ôl cyfnod cythryblus 2003 - neu ydi'r sefyllfa bresennol yn fwy difrifol?
Am flynyddoedd lawer roedd llwyddiant yn rhan annatod o dimoedd Cymru o dan hyfforddiant Warren Gatland. Ond eleni, am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, mi fydd Cymru yn ceisio osgoi colli pob gêm yn y gystadleuaeth.
Roedd hi'n stori debyg 21 o flynyddoedd yn ôl wedi i'r tîm cenedlaethol suddo i'r dyfnderoedd o dan Steve Hansen.
Mi oedd yr ysgrifen ar y mur y tymor hwnnw wedi i Gymru golli am y tro cyntaf erioed yn erbyn yr Eidalwyr yn Rhufain yn y gêm agoriadol.
Roedd y sefyllfa mor wael gafodd capten y dydd, Colin Charvis, ei labelu mewn pôl opiniwn a gynhaliwyd gan bapur y Western Mail yn fwy amhoblogaidd na sawl ffigwr amheus y cyfnod! Os oedd hynny dros ben llestri doedd dim modd gwadu'r ymdeimlad o anobaith ymhlith y cyhoedd ynglŷn â'r tîm cenedlaethol.
Llwy bren 2003
Roedd yr achubwr mawr, Graham Henry, wedi hen fynd a gŵr arall o Seland Newydd â'r dasg o wella safonau. Ond gafodd unrhyw obaith ei ddiffodd yn llwyr yn erbyn yr Azzurri.
Gwaethygu gwnaeth y sefyllfa'r tymor hwnnw. Oedd, roedd colli i gôl adlam Ronan O'Gara yn yr eiliadau olaf yn erbyn Iwerddon yn anlwcus a thorcalonnus... ond seliwyd ffawd y tîm ar brynhawn o wanwyn ym Mharis wrth golli o 31 i 5. Dyma'r tro diwethaf i Gymru 'ennill' y llwy bren a cholli pob un o'u pum gêm.
Sefyllfa'n fwy argyfyngus
Heddiw, 21 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Cymru mewn sefyllfa debyg. Yn sgil hynny mae nifer o wybodusion wedi bod yn cymharu'r sefyllfa bresennol i'r un yn 2003.
Mewn cyfweliad diweddar, fe wnaeth Prif Hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel, oedd yn rhan o'r garfan bryd hynny sôn am y tebygrwydd rhwng y ddau gyfnod. Hynny yw, roedd nifer o chwaraewyr ifanc yn bwrw'u swildod ar y lefel rhyngwladol a hynny wedi i nifer ymddeol o'r llwyfan rhyngwladol.
Roedd nifer felly yn ddibrofiad ac yn amharod ar gyfer dwyster rygbi rhyngwladol a'r canlyniadau siomedig yn brawf o hynny. Y gobaith bryd hynny oedd y byddai uno a buddsoddi yn yr ifanc yn dwyn ffrwyth maes o law, a gyda Chymru'n cipio'r Gamp Lawn ddwy flynedd wedi hynny (y cynta' ers 1978) fe brofwyd y ddamcaniaeth yn gywir!
Carfan gryfach yn 2003
Ond - ac ie, mae 'na 'ond' - mae yna wahaniaethau amlwg rhwng y ddau gyfnod. Ar droad y mileniwm roedd system ieuenctid Rygbi Cymru yn dal i ffynnu ar ôl dod yn ail i Seland Newydd ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn 1999. Roedd y clybiau neu ranbarthau yn dal i fod yn gystadleuol (enillodd y Scarlets y Gynghrair Geltaidd y flwyddyn ganlynol).
Mae modd dadlau, er gwaetha'r canlyniadau yn 2003, roedd y garfan yn gryfach ac yn fwy profiadol ac abl i gystadlu ar lwyfan rhyngwladol. Ar hyn o bryd fyddai neb yn mentro dweud mai Cymru fydd enillwyr y Gamp Lawn yn 2026. Wedi dweud hynny, prin fyddai unrhywun wedi dweud y fath beth cyn 2005!
Pwysau ar Warren Gatland
'Pwyll', 'amynedd', 'cyfnod ail-adeiladu a gosod seiliau am y tymor hir'... dyna rethreg a chyd-destun yr ymgyrch yma i Gymru. Ac er bod yna wirionedd i hynny, dyw'r naratif yna ddim yn gallu parhau am byth.
Does dim modd i Warren Gatland a'i dîm hyfforddi gysgodi tu ôl i hynny. Ydy, mae trafferthion y gêm ranbarthol yn hysbys i bawb a wastad yn mynd i effeithio ar lwyddiant y tîm cenedlaethol yn y pendraw.
Mae'r prif hyfforddwr hefyd wedi awgrymu nad oedd y gwaith o ddatblygu'r genhedlaeth nesa wedi bod yn ddigonol o dan ei rhagflaenydd Wayne Pivac er bod y ffeithiau moel yn awgrymu'r gwrthwyneb, wrth i Pivac 'enwi' 34 o gapiau newydd yn ei dri ymgyrch wrth y llyw.
Nid amddiffyn ei rhagflaenydd ydw i fan hyn ac roedd y penderfyniad i'w ddiswyddo yn anorfod ar ôl colli i'r Eidal a Georgia, ond tanlinellu na ddylai'r hyfforddwr presennol chwaith osgoi unrhyw feirniadaeth.
Mae Cymru bellach wedi colli 11 o'u 12 gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Tasg anodd fydd osgoi profiad tîm 2003 yn erbyn gwrthwynebwyr fydd wedi eu hysbrydoli ar ôl buddugoliaeth gampus dros yr Albanwyr. Ond os colli, am ba hyd y dylid parhau i sôn am unrhyw 'wawr newydd'?
RADIO CYMRU - Y Frwydr Fawr: Cymru a Streic y Glowyr
RADIO CYMRU 2 - Dewis: Tara Bandito
PODLEDIAD - Esgusodwch Fi: Y cyfarwyddwr Euros Lyn