S4C yn cynnig ad-daliad wedi trafferthion Cân i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi dweud y byddan nhw'n ad-dalu'r rheiny a gafodd drafferthion yn ceisio pleidleisio am Cân i Gymru eleni.
Sara Davies enillodd y gystadleuaeth ar 1 Mawrth gyda'r gân Ti.
Ond roedd cwynion gan nifer eu bod wedi methu â bwrw pleidlais, ac fe wnaeth S4C ymddiheuro am y trafferthion.
Roedd sawl un oedd wedi ceisio pleidleisio wedi dweud eu bod yn "siomedig" ac yn "rhwystredig" ar ôl derbyn biliau ffôn uwch na'r arfer.
Mae'r corff sy'n rheoleiddio darlledu, Ofcom, wedi cadarnhau eu bod wedi cael cwynion am y rhaglen, ond eu bod yn dal i benderfynu "a ddylid ymchwilio ai peidio".
Mewn datganiad ar wefan Cân i Gymru dywedodd S4C: "Rydym yn deall bod nifer o wylwyr wedi cael trafferthion wrth geisio bwrw pleidlais yn ystod Cân i Gymru 2024 ac mae'n ddrwg iawn gennym am hynny.
"Er i'r system gael ei phrofi'n llwyddiannus o flaen llaw roedd nam technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio ar y noson."
Mae'n dweud y bydd modd ad-dalu "unrhyw un wnaeth fwy nag un galwad ffôn i bleidleisio, am nad oedd neges yn cadarnhau bod y bleidlais gyntaf wedi ei chyfrif".
"Bydd modd hawlio ad-daliad am bob galwad yn dilyn y neges gyntaf (gallwn gadarnhau y byddai honno wedi ei chyfrif fel pleidlais)."
Ychwanegodd y datganiad fod y "canlyniadau wedi cael eu gwirio ac yn ddilys".
'Llawer o gwestiynau'
Dywedodd aelod o deulu un o'r cystadleuwyr ar y noson, a oedd eisiau bod yn ddienw, bod dal "llawer o gwestiynau am yr hyn ddigwyddodd ar y noson".
Mae'r ad-daliadau'n "ryddhad", meddai'r unigolyn, ond ychwanegodd bod "dim esboniad o beth ddigwyddodd, a dim awgrym gan S4C y byddan nhw'n rhoi un o gwbl".
Er i S4C ddweud bod y pleidleisiau cyntaf wedi cyfrif ar y noson a bod y canlyniadau'n ddilys, dywedodd yr unigolyn nad ydynt wedi gweld tystiolaeth o hynny, a bod "diffyg tryloywder".
Mae S4C wedi cael cais am ymateb i'r sylwadau.
Mae'r manylion am sut i hawlio ad-daliad ar wefan Cân i Gymru, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024