Efailwen: Agor a gohirio cwest i farwolaeth Llŷr Davies

  • Cyhoeddwyd
Llŷr DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llŷr Davies yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul

Cafodd cwest ei agor i farwolaeth bachgen 16 oed a fu farw mewn digwyddiad mewn chwarel yn Sir Benfro.

Mewn gwrandawiad yn Neuadd y Dref Llanelli, dywedodd Swyddog y Crwner dros Sir Benfro, Carrie Sheridan, fod yr heddlu wedi cael eu galw i chwarel Gilfach ger Efailwen am 13:23 ar ddydd Mawrth, 12 Mawrth yn dilyn adroddiadau o "ddigwyddiad yn ymwneud â thryc".

Ar y diwrnod, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod tryc wedi ei ganfod mewn afon fas, tra bod unigolyn wedi ei ddarganfod mewn lleoliad arall.

Y bachgen a gafodd ei ladd yn y digwyddiad oedd Tomos Llŷr Davies.

Er gwaethaf "ymdrechion gorau" y gwasanaethau brys, fe gadarnhaodd Dr Christopher Marsh o wasanaeth yr Ambiwlans Awyr am 14:39 ei fod wedi marw.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ond nid yw'r canlyniadau wedi dod i law hyd yma.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwiliad llawn i'r digwyddiad.

Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad sydd heb ei gadarnhau.