Staff ddim yn credu fod dyn fu farw o ddifri am niweidio'i hun - adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Parc Busnes Bryn CeginFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Reginald Roach ar Barc Busnes Bryn Cegin

Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai

Roedd troseddwr rhyw a fu farw wedi dweud ei fod yn mynd i wneud niwed iddo'i hun ond roedd staff hostel yn credu nad oedd o ddifri, yn ôl adroddiad.

Bu farw Reginald Roach, 63, ar ôl iddo dorri ei organau cenhedlu i ffwrdd ym mis Tachwedd 2022 wedi iddo fynd ar goll o hostel ym Mangor.

Daeth cwest yn gynharach eleni i'r casgliad ei fod wedi lladd ei hun.

Mae adroddiad gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf yn dweud fod Roach wedi dweud wrth ei swyddog prawf ei fod yn poeni fod pobl yn credu ei fod yn bidoffeil.

Roedd Roach, oedd â "hanes o hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau a thrafferthion iechyd meddwl", yn aros yn hostel mechnïaeth Tŷ Newydd ger Bangor wedi iddo dreulio dedfryd o wyth wythnos yn y carchar am fethu cydymffurfio gyda gorchymyn troseddwr rhyw yng Ngharchar y Berwyn, Wrecsam.

Roedd wedi gadael yr hostel heb ddweud wrth neb ar 5 Tachwedd, ac fe gafodd ei ddarganfod ddiwrnod yn ddiweddarach mewn cae rhyw filltir i ffwrdd ar Barc Busnes Bryn Cegin. Bu farw yn yr ysbyty ar 6 Tachwedd.

'Credu'i fod yn gwamalu'

Mae adroddiad yr ombwdsmon yn dweud fod staff Tŷ Newydd "wedi gwneud asesiad priodol o'r risg y byddai Roach yn hunan-niweidio wrth ei dderbyn i'r ganolfan, ac wedi cynnig amgylchedd gefnogol lle gallai geisio datrys ei ymddygiad troseddol".

Pan gyrhaeddodd yr hostel, fe ddywed yr adroddiad fod Roach wedi siarad gyda staff am ei drosedd o ddinoethi anweddus ac nad oedd hi'n fwriad ganddo i frifo unrhyw un.

Gwadodd fod ganddo fwriad i ladd ei hun neu hunan-niweidio, ond dywedodd mai'r peth gorau iddo fyddai tynnu ei organau cenhedlu, ond o ystyried cyd-destun y sgwrs roedd yr aelod o staff "yn credu ei fod yn gwamalu".

Yn ystod ei arhosiad byr yn yr hostel roedd Roach eisoes wedi gadael yr adeilad heb "arwyddo'i hun allan" ar un achlysur. Gan nad oedd hyn yn groes i reolau'r hostel, doedd staff "ddim yn or-bryderus" pan wnaeth hynny eto ac ni wnaethon nhw gysylltu gyda'r heddlu.

Dywed yr adroddiad nad oedd modd gwybod a fyddai'r heddlu wedi dod o hyd iddo'n gynt cyn iddo niweidio'i hun pe byddai'r staff wedi adrodd am ei ddiflaniad yn gynharach yn y dydd.

Ond fe wnaeth yr adroddiad feirniadu staff am beidio cysylltu gyda theulu Roach yn gynt nag y gwnaethon nhw.

Mae canllawiau cenedlaethol yn dweud y dylen nhw fod wedi gwneud hynny o fewn 48 awr, ond roedd hi'n 12 diwrnod wedi marwolaeth Roach cyn i staff Tŷ Newydd gysylltu gyda nhw.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan BBC Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor

Pynciau cysylltiedig