Plaid Cymru: Angen newid rheolau yn ymwneud â rhoddion
- Cyhoeddwyd
Mae'r sgandal am y rhoddion ariannol yn y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur yn golygu bod angen newid y rheolau ynghylch rhoddion gwleidyddol, yn ôl ffigwr blaenllaw o Blaid Cymru.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, fod "sgandal ar ôl sgandal" yn golygu fod "y cyhoedd wedi colli ffydd mewn gwleidyddion".
Mae'n dweud na ddylai unrhyw blaid allu "prynu pleidleisiau gan amharu ar ein democratiaeth".
Roedd Ms Medi yn siarad ar ail ddiwrnod cynhadledd Plaid Cymru yng Nghaernarfon.
Yn y cyfamser, mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, yn dweud pe byddai'r blaid yn ennill etholiad y Senedd, bydden nhw'n rhoi hwb i gyflog byw gweithwyr cymdeithasol.
'Blino ar sgandal ar ôl sgandal yn San Steffan'
Mae'r Ceidwadwyr wedi wynebu galwadau i ddychwelyd rhoddion ariannol o £15m gan berson a oedd wedi ei gyhuddo o hiliaeth.
Daeth hi i'r amlwg fod Vaughan Gething, sydd bellach yn Brif Weinidog Cymru, wedi cael rhodd ariannol o £200,000 fel rhan o'i ymgyrch gan gwmni oedd yn cael ei redeg gan ddyn gafodd ei ddyfarnu'n euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi galw i'r arian gael ei ddychwelyd gan ddweud bod yn rhaid i Mr Gething adennill ffydd pobl.
Dywedodd Ms Medi, sy'n sefyll fel aelod Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn: "Dwi'n siŵr eich bod chi fel fi, wedi blino ar sgandal ar ôl sgandal yn San Steffan.
"Pe bai nhw ond yn rhoi gymaint o egni i lywodraethu'r wlad ac y maen nhw'n gwneud i edrych ar ôl eu hunain, efallai y byddem mewn lle gwell".
"Does dim syndod fod y cyhoedd wedi colli hyder mewn gwleidyddion."
Dywedodd: "Yma, rydym yn gobeithio y bydd Llafur yn dangos gwell esiampl, ond na."
"Lle mae'r egwyddorion sylfaenol o fywyd cyhoeddus wedi mynd? Mae'n edrych fel pe bai "arian" yn bwysicach na "gwasanaeth cyhoeddus."
"Dwi'n falch fod Plaid Cymru yn blaid ar lawr gwlad, ac mae hynny'n golygu bod yn atebol i'r bobl rydym yn eu cynrychioli, nid i fusnesau mawr a buddsoddwyr cyfoethog. Gadewch i ni gael rheolau llymach gan sicrhau na fydd unrhyw blaid yn gallu prynu pleidleisiau gan amharu ar ein democratiaeth."
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, byddai Llywodraeth Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn sicrhau y byddai gofalwyr yng Nghymru yn cael eu talu £1 yr awr yn fwy na'r gyfradd cyflog byw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dalu gweithwyr cymdeithasol ar sail y gyfradd cyflog byw - sy'n seiliedig ar gostau byw. Mae hynny'n £12 yr awr.
Yn ei araith yn y gynhadledd, dywedodd Mr ap Gwynfor: "Mae ein gofalwyr yn arwyr tawel i'n system iechyd a gofal, yn ofalgar, ac yn edrych ar ôl y rhai bregus yr ydym yn caru ddydd a nos, ac maen nhw'n gwneud hynny gan eu bod yn poeni.
"Ein neges i'r gofalwyr yw - os ydych yn poeni am y rhai yr ydych yn eu caru, yna byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gofalu amdanoch chi."
Bydd yn rhaid i Blaid Cymru fod yn llwyddiannus yn etholiadau'r Senedd er mwyn ffurfio Llywodraeth ym Mae Caerdydd.
Mae disgwyl i'r etholiad nesaf ddigwydd yn 2026.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2023