Plaid Cymru yn cynnig 'dyfodol gwahanol' - Rhun ap Iorwerth

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Rhun ap Iorwerth yn arweinydd Plaid Cymru yr haf diwethaf ar ôl ymddiswyddiad Adam Price

Dylai pleidleiswyr sydd eisiau dyfodol gwahanol i'r gorffennol gefnogi Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol y DU, medd yr arweinydd wrth gynhadledd ei blaid ddydd Gwener.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Ceidwadwyr wedi achosi "difrod di-ddweud" i'r rhai maen nhw i fod i'w gwasanaethu a bod Llafur yn syml yn cynnig mwy o lymder.

Yng nghynadledd y blaid yng Nghaernarfon, ychwanegodd bod y blaid "yn sefyll ar wahân i wleidyddiaeth sefydliad y DU".

"Rydyn ni eisiau i bobl deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto."

Yn gyfrifol am Blaid Cymru ers naw mis, mae Mr ap Iorwerth yn arwain y trydydd grŵp mwyaf ym Mae Caerdydd, gyda 12 sedd yn y siambr 60 aelod, y tu ôl i'r Blaid Lafur lywodraethol a'r Ceidwadwyr.

Mae gan y Blaid dri AS yn San Steffan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Blaid Cymru 12 aelod yn Senedd Cymru a thri AS yn San Steffan

Mae Plaid Cymru yn wrthblaid ond mae hi ym mlwyddyn olaf cytundeb cydweithredu tair blynedd gyda gweinidogion Llafur ar ystod o bolisïau, gan gynnwys ehangu Senedd Cymru, gofal plant a chinio ysgol am ddim.

'Cyfundrefn ddrylliedig'

Yn ei araith brynhawn Gwener, beirniadodd Mr ap Iorwerth Llafur a'r Ceidwadwyr, wrth iddo geisio egluro pam y dylai pleidleiswyr gefnogi ymgeiswyr ei blaid mewn etholiad cyffredinol DU sydd i fod i ddigwydd yn y 10 mis nesaf.

"O Fôn i Fynwy, mae ASau Ceidwadol wedi cefnogi cyfundrefn ddrylliedig sy'n achosi di-ddweud i'r bobl y maent i fod i'w gwasanaethu," meddai.

Ond ateb arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer oedd i "gyhoeddi'r angen am agwedd hollol newydd at wleidyddiaeth" ond "dilyn uniongrededd y Ceidwadwyr".

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod "gweld Rachel Reeves [canghellor yr wrthblaid yn San Steffan] yn cerdded yr un llwybr â Jeremy Hunt yn cynnig rhagor o lymder".

Ei ddadl oedd y bydd pleidleisio i Blaid Cymru "yn cadw'r Torïaid allan, yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf ac yn anfon neges i Lafur i beidio cymryd Cymru'n ganiataol".

Mae Llafur wedi bod mewn llywodraeth yng Nghaerdydd ers datganoli yn 1999, ac ar hyn o bryd mae ganddi 30 o'r 60 sedd ym Mae Caerdydd a 21 o 40 sedd Cymru yn San Steffan.

"Rydym yn sefyll ar wahân i wleidyddiaeth sefydliad y DU. Nid ydym am i'r dyfodol edrych fel y gorffennol.

"Rydyn ni eisiau i bobl deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto."Galwodd hefyd am fwy o arian gan lywodraeth nesaf y DU.

"Rhowch y cyllid sy'n eiddo i ni, o goffrau'r Trysorlys y mae arian trethdalwyr Cymru yn cyfrannu ato, fel pob rhan arall o'r DU."

Mynnodd hefyd y dylai llywodraeth y DU gryfhau pwerau'r Senedd ym Mae Caerdydd.

"Rhowch y grymoedd sydd eu hangen arnom i adeiladu senedd bwerus, nid datganoli tameidiog na all gadw i fyny â gobeithion ein pobl," meddai.

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol heb wrthwynebiad fel arweinydd Plaid Cymru fis Mehefin diwethaf, yn sgil ymddiswyddiad dramatig Adam Price ar ôl i adroddiad damniol honni diwylliant o fwlio, aflonyddu a chasineb at fenywod yn y blaid.

Pynciau cysylltiedig