Cartref newydd i feithrinfa Gymraeg yn dilyn tân difrifol

  • Cyhoeddwyd
Tân CasnewyddFfynhonnell y llun, Darren Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd hen adeilad Meithrinfa Wibli Wobli ei losgi'n llwyr yn y tân ar stad ddiwydiannol Wern

Mae meithrinfa gafodd ei ddinistrio gan dân difrifol ym mis Chwefror wedi dod o hyd i gartref newydd.

Fe gafodd adeilad Meithrinfa Wibli Wobli yng Nghasnewydd ei losgi'n llwyr mewn tan ar stad ddiwydiannol Wern ym mis Ionawr.

Daeth cadarnhad y bydd y feithrinfa nawr yn symud i adeilad ar stad ddiwydiannol Parc Cleppa fydd yn cael ei rannu gyda Theml Dharma Mandir - unig deml Hindŵaidd Casnewydd.

Yn ôl perchennog y feithrinfa, Natasha Baker, maen nhw'n gobeithio y bydd y safle'n barod erbyn dechrau'r haf.

Mae Ms Baker yn gobeithio y bydd y lleoliad newydd yn cynnig cyfle i ehangu'r busnes.

"Mae'n adeilad braf, agored ond mae'n rhaid 'neud lot o waith addasu fel wnaethon ni yn Wern House," meddai.

"Mae'n gyfle i'r busnes dyfu. Bydd modd i ni gymryd yn agos i 70 o blant yn lle 40, ac am y tro cyntaf byddwn ni'n gallu cymryd babanod dan ddwy oed.

"Dyw hynny ddim yn bodoli yn Gymraeg yng Nghasnewydd".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y feithrinfa yn rhannu'r adeilad gyda Theml Dharma Mandir

Yn dilyn y tan ar 15 Ionawr fe gafodd y feithrinfa gefnogaeth ysgolion lleol cyn cael cartref dros dro ar safle Ysgol Gynradd Parc Tredegar.

Bu'n rhaid i rai teuluoedd wneud trefniadau eraill ar gyfer eu plant o ganlyniad.

Ond nawr eu bod nhw wedi dod o hyd i gartref parhaol mae disgwyl y bydd nifer ohonyn nhw yn dewis dychwelyd.

"Mae lot o rieni wedi dweud eu bod nhw eisiau dod 'nôl ac mae gyda ni restr aros o 70 o blant a hynny heb hysbysebu o gwbl," meddai Ms Baker.

'Cyfle i rannu diwylliant'

Fe gafodd dros £8,000 ei godi yn dilyn y tan ac fe gafodd yr arian ei wario ar dalu staff a phrynu offer newydd.

Yn ôl Ms Baker, roedd gweld y fath gefnogaeth yn ysgogiad i ddod 'nôl yn gryfach.

Bydd angen mynd trwy'r broses gynllunio, addasu'r adeilad a chael asesiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ond y gobaith yw y bydd modd agor ym mis Mehefin. 

"Bydd teml Hindŵaidd cyntaf Casnewydd uwchben meithrinfa breifat Gymraeg cyntaf Casnewydd.

"Bydd hynny'n cynnig cyfle arbennig i rannu diwylliant ac i ddysgu'r plant."

Pynciau cysylltiedig