'Bwyd ar y bwrdd yn bwysicach na'r bil treth cyngor'

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na rybudd y daw amser y bydd cynghorau'n gorfod cyhoeddi nad oes modd iddyn nhw osod cyllideb o gwbl

Mewn oes lle mae costau'n cynyddu o hyd, mae rhoi bwyd ar y bwrdd yn cael blaenoriaeth gan lawer o bobl dros dalu treth y cyngor.

Dyna'r realiti, medd un arbenigwr, wrth i'r bil am ddarparu amryw o wasanaethau allweddol godi ar ddechrau blwyddyn ariannol newydd.

Mae'r cynnydd yn nhreth y cyngor yn amrwyio o 5.4% yn Nhorfaen i 12.5% yn Sir Benfro - a hynny er i awdurdodau lleol Cymru orfod cwtogi gwasanaethau i sicrhau arbedion gan eu bod hwythau hefyd dan bwysau ariannol mawr.

Ond mae'r ystadegau'n dangos na chafodd gwerth £77m o daliadau mo'u casglu yng Nghymru y llynedd - ac mae yna feirniadaeth nad yw'r dreth yn deg.

O dalu am ysgolion a darparu gofal cymdeithasol i gasglu gwastraff a thrwsio tyllau ffordd, mae treth y cyngor yn cyfrannu at y gwasanaethau mae pawb yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.

Ond mae'r wasgfa ariannol a thoriadau i gyllideb llywodraeth leol yn golygu ein bod ni'n gorfod talu mwy.

Ond faint yn fwy o arian bydd yn llifo i goffrau'r cynghorau? Y llynedd £77m oedd y swm na chafodd ei gasglu.

Roedd cyfraddau casglu yn amrywio o 97.8% ym Mro Morgannwg i 92.7% ym Mlaenau Gwent.

Disgrifiad o’r llun,

Does neb yn ennill dan y drefn bresennol, ym marn Dr Marlene Davies

Dyw hon ddim yn broblem newydd yn ôl yr arbenigwr ar gyllid llywodraeth leol Dr Marlene Davies, ond dyw hi ddim yn debyg o wella.

"Y llefydd 'na lle maen nhw ddim yn casglu sut gymaint yw lle mae pobl ddim yn gallu fforddio talu fe ta beth," dywedodd.

"Mae chwyddiant yn effeithio pawb a 'dyn nhw ddim yn gallu fforddio talu treth cyngor.

"Ma' hwnna yn isel lawr ar gofynion incwm pobl - os mae'n golygu rhoi bwyd ar y bwrdd ma' hwnna'n mynd i ddod gynta'.

"A ma' nhw'n edrych ar ganol y flwyddyn i weld beth yw'r gwariant a faint o arian sy'n dod i fewn... a deud 'reit, so nhw'n mynd i ga'l yr arian yma i gyd'.

"Mae nhw'n [cynghorau sir] goro torri'n ôl ar wasanaethau eto - ma ' fe yn no-win sefyllfa i'r bobl yma ac i'r llywodraeth leol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Dr Hefin Gwilym - darlithydd Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor - bod "pobl mewn creisis... yn dueddol o drio talu'r petha' sy'n orfodol i'w talu gynta', sef y rhent neu'r morgais" cyn prynu bwyd.

O ganlyniad, meddai, mae rhai pobl yn bwyta llai neu'n "mynd heb fwyd er mwyn trio talu'r bilia' mawr 'ma".

Ond mae "vicious circle" yn codi, meddai, lle mae cynghorau'n ymateb i bwysau cyllidol trwy godi mwy tra'n torri'n ôl, gan arwain at benderfyniadau amhoblogaidd, ac mae'n anoddach nag erioed i rai dalu'r dreth.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn barod na ddylia llysoedd anfon neb i'r carchar oherwydd bod nhw ddim yn gallu talu ond dyma'r math o beth ma' pobl yn wynebu os nad 'dyn nhw'n talu - maen nhw'n gallu mynd i mewn i drwbl wedyn."

Mae yna feirniadaeth ers tro nad yw treth y cyngor yn deg. Mae'r felin drafod annibynnol Sefydliad Bevan ymhlith y cyrff sy'n dadlau fod pobl sy'n byw mewn tai drud yn talu cyfran llai o werth yr eiddo ar gyfartaledd na phobl mewn tai rhatach.

Y pryder yw, dan y drefn bresennol a gan fod cost gwasanaethau yn debyg waeth pa mor llewyrchus yw'r ardal, bod trigolion ardaloedd gyda llawer o dai rhad yn talu mwy na mewn ardaloedd cyfoethog.

Er enghraifft, mae treth cyngor pobl ym Mlaenau Gwent yn uwch nag yn ardal Dinas Westminster yn Llundain.

Mae Dr Marlene Davies yn cytuno nad yw'r dreth fel ag y mae yn deg.

"Gewch chi pedwar person sydd yn gweithio mewn un tŷ, a ddim ond dau berson sydd ddim yn gweithio drws nesa' - ac wrth gwrs mae'r bil yr un peth," dywedodd.

Mae Dr Hefin Gwilym o'r farn bod hi'n "hen bryd" newid y drefn. Daeth y system bandio bresennol i rym yn 2003.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru "yn trio'u gora' i drio creu system fwy teg" a bod creu mwy o fandiau yn ateb posib.

Adolygiad ar waith

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod yr heriau ariannol mae cynghorau yn eu hwynebu a'u bod nhw hefyd yn teimlo'r pwysau.

Maen nhw'n beio Llywodraeth y DU am gwtogi gwariant ar lywodraeth leol.

Mae'r llywodraeth yn y broses o adolygu treth y cyngor fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru ac mae cyfnod ymgynghori newydd ddod i ben.

Pynciau cysylltiedig