Dirwy o £5,000 i Aberystwyth yn sgil gohirio gêm

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr AberystwythFfynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gêm ar 9 Mawrth ei gohirio gan fod Aber wedi"methu â chyflawni eu gofynion meddygol"

Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi cael dirwy o £5,000 - £2,500 wedi ei ohirio - ar ôl i'w gêm yn erbyn Pontypridd yn y Cymru Premier gael ei gohirio funud olaf.

Daeth panel disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i'r casgliad fod Aberystwyth wedi dwyn anfri ar y gynghrair.

Y rheswm am hynny, yn ôl CBDC, yw bod Aberystwyth wedi methu â chyflawni eu gofynion meddygol drwy sicrhau bod ffisiotherapydd neu therapydd chwaraeon ar gael ar gyfer y gêm ar 9 Mawrth.

Y bore hwnnw cafodd ffisiotherapydd y clwb ei daro'n wael, ac nid oedd gan yr unigolyn a gamodd i'w rôl y cymwysterau angenrheidiol.

Bydd £2,500 o'r ddirwy yn cael ei ohirio tan ddiwedd tymor 2024-25, ond os yw'r gymdeithas yn dyfarnu bod y clwb wedi dwyn anfri ar y gynghrair ar unrhyw bwynt cyn hynny, yna bydd rhaid iddyn nhw dalu'r ddirwy yn llawn.

Mae gan Aberystwyth tan 9 Ebrill i apelio yn erbyn y penderfyniad - y diwrnod y bydd y gêm yn erbyn Pontypridd yn cael ei hailchwarae.