Gohirio gêm 'ddim yn adlewyrchiad da' ar y Cymru Premier

  • Cyhoeddwyd
Match officials and Aberystwyth players wait for news at the USW Sport Park in TreforstFfynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aberystwyth wedi chwarae yn haen uchaf pêl-droed Cymru ers sefydlu'r gynghrair yn 1992

"Dydy o ddim yn adlewyrchiad da" ar ein prif gynghrair bêl-droed bod angen ymchwiliad i'r rhesymau dros ohirio gêm rhwng Pontypridd ac Aberystwyth ar y funud olaf.

Dyna farn Marc Lloyd Williams, prif sgoriwr hanes haen uchaf pêl-droed Cymru.

Roedd y gic gyntaf rhwng y ddau dîm i fod am 14:30 ar 9 Mawrth ym Mhontypridd. Ond fe ohiriwyd y gêm gan fod Aberystwyth "methu â chyflawni eu gofynion meddygol".

Bore Sadwrn cafodd ffisiotherapydd Aberystwyth ei daro'n wael, a gan nad oedd gan y person a gamodd i'w rôl y cymwysterau angenrheidiol roedd rhaid gohirio'r gêm.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dechrau ymchwiliad.

'Rheolau'n glir'

Dywedodd Marc Lloyd Williams wrth Cymru Fyw: "Dwi'm yn gwybod beth fydd ymchwiliad Cymdeithas Bêl-droed Cymru fewn i hyn yn ei ddweud - ydy o'n golygu bod Aberystwyth methu chwarae gêm a bo nhw'n cael eu cosbi a cholli pwyntiau?

"Achos bydd hynny'n cael effaith ar waelod y tabl gan bo' nhw'n brwydro gyda Phontypridd a Bae Colwyn i aros yn uwch gynghrair Cymru.

"Mae'r rheolau yna'n glir i bob clwb i'w gweld. Dwi'n deall bo' 'na ddwy ochr i'r stori - o be' dwi 'di clywed o gyfweliadau Anthony Williams a Gavin Allen, mae gan y ddau bwyntiau teg, felly mae'n dibynnu sut mae'r gymdeithas yn mynd i edrych arno fo.

"Os oedd gan Aberystwyth neb wrth gefn fel ffisiotherapydd neu cymorth cyntaf, wel mae'r canllawiau'n dweud yn union pa gymwysterau maen nhw angen, felly ella bydd 'na rybudd wedyn i glybiau eraill wedyn os di ffisiotherapydd nhw ddim ar gael ar y diwrnod, bydd rhaid nhw gael rhywun wrth gefn efo'r cymwysterau yn y tîm hyfforddi."

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn cyfnod gydag Aberystwyth, mae Gavin Allen bellach wrth y llyw gyda Phontypridd

Yn siarad â rhaglen Sgorio ar S4C fe ddywedodd Anthony Williams, rheolwr Aberystwyth: "'Nathon ni ddod â rhywun 'efo ni, ond o beth dwi'n ddeall doedd dim y cymwysterau angenrheidiol yn ôl y dyfarnwr a'r llumanwr. Ond ni chafwyd help gan y tîm arall."

Fe gadarnhaodd Gavin Allen, rheolwr Pontypridd, bod gorchymyn wedi dod i ffisiotherapydd y clwb ofalu am y ddau dîm, ond fe gafodd hyn ei wrthod.

"Mae gennym ni physio fan hyn, ac fe ofynnodd Aberystwyth os fysa hi'n barod i edrych ar ôl y gêm," meddai Allen.

"Doedd hi ddim eisiau gwneud, a phob chwarae teg iddi hi, does ganddon ni ddim records meddygol dim un o chwaraewyr Aberystwyth. Doedd hi ddim yn fodlon gwneud am fod o'n gyfrifoldeb mawr, a 'da ni'n ei chefnogi hi ar hynny."

Ychwanegodd bod gohirio'r gêm yn "siomedig iawn" ond bod "dim byd allwn ni ei 'neud".

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gêm ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru yn cael ei gweld fel un hollbwysig yng nghyd-destun y gynghrair eleni

A oes lle i'r gynghrair wneud mwy i gynnig cymorth felly?

"Mae'r gynghrair yn gorfod dilyn canllawiau gan UEFA neu FIFA" meddai Marc Lloyd Williams, "ond mae'r canllawiau yna ers dechrau'r tymor felly mae pob clwb yn gwybod be' 'di'r canllawiau a be 'di'r protocols.

"Mae 'na fuddsoddiad o £6m yn dod i'r gynghrair rŵan, ac mae hyn yn golygu y bydd yna fwy o fuddsoddiad yn mynd mewn i hyfforddi aelodau staff i gael y sgiliau angenrheidiol, a bod mwy nag un unigolyn efo'r sgiliau 'ma."

Roedd Gavin Allen yn rheoli Aberystwyth tan ddiwedd tymor 2020-21, ac mae wrth y llyw gyda Phontypridd ers mis Ionawr eleni.

Cafodd Pontypridd ostyngiad o naw pwynt yn y tabl y tymor yma am ddefnyddio chwaraewyr anghymwys.

Gofynnwyd i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am ddiweddariad ynglŷn â'r sefyllfa yn dilyn digwyddiadau'r penwythnos, ond nid oeddent am wneud sylw tra bod ymchwiliad ar y gweill.