Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad awtomatig i Adran Un
- Cyhoeddwyd
Mae CPD Wrecsam wedi sicrhau dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol yn dilyn buddugoliaeth swmpus ar y Cae Ras.
Pum pwynt o'u tri gêm olaf roedd tîm Phil Parkinson eu hangen i sicrhau dyrchafiad awtomatig i Adran Un.
Ond does dim angen poeni mwyach am ganlyniadau'r gemau i ddod yn erbyn Crewe Alexandra a Stockport County wedi iddyn nhw drechu Forest Green Rovers 6-0 ddydd Sadwrn.
Gydag 82 o bwyntiau, mae bellach yn fathemategol amhosib i Wrecsam beidio bod yn nhri safle uchaf Adran Dau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd cefnogwyr yn croesi bysedd wrth gyrraedd y Cae Ras ddydd Sadwrn gan wybod bod hi'n bosib y byddai'r tîm yn sicrhau'r pwyntiau angenrheidiol i godi adran gyda dwy gêm yn weddill.
Un peth oedd sicrhau triphwynt yn erbyn y tîm ar waelod Adran Dau - roedd hefyd angen i MK Dons a Barrow golli eu gemau nhw.
Roedd hi'n argoeli'n dda bod y nod o fewn cyrraedd cyn diwedd yr hanner cyntaf yn dilyn goliau Elliot Lee (17), Paul Mullin (23 a 44) a gôl i'w rwyd ei hun gan amddiffynnwr yr ymwelwyr, Ryan Innis (33).
Sgoriodd Ryan Barnett 63) a'r eilydd Jack Marriott (84) yn yr ail hanner - ac wrth gadw golwg ar gemau'r ddau dîm, roedd hi'n amlwg ymhell cyn y chwiban olaf nad oedd y naill na'r llall am atal Wrecsam rhag cam nesaf pennod hynod gyffrous yn hanes y clwb.
Fe gollodd MK Dons 4-1 i Mansfield ac fe drechodd Gillingham Barrow 3-0.
Bu'n rhaid aros 15 mlynedd am ddyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol - ond blwyddyn yn unig i godi unwaith yn rhagor o Adran Dau.
Bydd Wrecsam nawr yn chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Lloegr y tymor nesaf am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd.
Fe heidiodd y cefnogwyr cartref i'r cae pan ddaeth y gêm i ben - dau absenoldeb amlwg oedd yr actorion Ryan Reynolds a Ron McElhenney sydd wedi dod â gymaint o sylw a llwyddiant i'r clwb ers eu penderfyniad rhyfeddol i'w brynu.
Wrth i Wrecsam sicrhau dau ddyrchafiad yn olynol am y tro cyntaf yn ei hanes, dywedodd McElhenney ar y cyfryngau cymdeithasol: "Dim geiriau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2024