O ryfela i gyd-fyw: Hanes y cysylltiad Cymreig gyda'r Americanwyr brodorol

  • Cyhoeddwyd
Robert Owen Hughes a'i deuluFfynhonnell y llun, Canolfan Treftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr
Disgrifiad o’r llun,

Symudodd Robert Owen Pugh o Lanfachraeth i'r Unol Daleithiau yn 1863, a gweithiodd fel 'ranch hand' yn Nebraska cyn symud i'r Bryniau Duon yn Nhiriogaeth Dakota

Mae yna gysylltiadau amlwg wedi bod rhwng rhai o'r Cymry deithiodd i America a'r brodorion, gydag achosion o ryfela, cyd-fyw a phriodi wedi bod dros y blynyddoedd.

Mae Robert Humphries yn Gyfarwyddwr Canolfan Treftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr yn Nebraska, ac yma mae'n sôn am bwysigrwydd cofio am y cysylltiad hanesyddol; y da a'r drwg.

Yn ystod y 19eg ganrif, teithiodd miloedd o fewnfudwyr o Gymru i'r Unol Daleithiau, gyda'r bwriad o gael gafael ar dir a dechrau bywyd newydd.

Wrth i'r wlad ehangu tua'r gorllewin, roedd gwahoddiad i ymsefydlwyr a mewnfudwyr i ffermio ar y peithiau a'r Gwastadeddau Mawr.

Roedd miloedd o erwau ar gael am bris isel neu yn rhad ac am ddim mewn rhai sefyllfaoedd. Ond daeth y cyfle hwn i'r Cymry ac ymsefydlwyr eraill ar draul yr "Indiaid," sef pobloedd frodorol y wlad.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Treftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thomas Higgins wedi symud o Gymru tra bod Catherine wedi'i geni i rieni Cymraeg yn nhalaith Efrog Newydd

Un o'r setlwyr cyntaf i gyrraedd a meddianu'r tir yn Nebraska oedd Thomas a Catherine Higgins. Roedd Thomas Higgins wedi symud o Gymru tra bod Catherine wedi'i geni i rieni Cymraeg yn nhalaith Efrog Newydd.

Bu'r ddau yn byw yn Efrog Newydd, Ohio a Wisconsin cyn symud i Sir Nemaha yng nghanol y 1860au.

Yn ystod ail hanner y ganrif, daeth mewnfudwyr Cymreig i gyswllt a gwrthdaro gyda nhw. Mae cydnabod hyn yn hanfodol er mwyn creu hanes cyflawn o Gymry America.

Brwydr Little Big Horn

Roedd rhai Cymry yn rhan o ryfel gwaedlyd rhwng rhan o lwyth Dakota o dan y pennaeth Little Crow, a'r Unol Daleithiau yn Minnesota yn 1862.

Lladdwyd 600 o ymsefydlwyr, gan gynnwys rhai o Gymru, ac wedyn fe grogwyd 38 o ryfelwyr Dakota. Dyma'r dienyddiad mwyaf o'i fath yn hanes y wlad.

Yn ddiweddarach, yn 1876, collodd William B. James, Cymro o Sir Benfro a rhingyll yn Seithfed Farchoglu Byddin yr Unol Daleithiau, ei fywyd ym mrwydr Little Big Horn yn erbyn y Lakota (Sioux) yn Wyoming.

Dyma'r unig Gymro i gwympo ar faes y gad yno o dan arweiniad y Cadfridog Custer.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Treftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hysbyseb fel hwn yn Y Drych yn annog pobl i fynd draw i America o Gymru

Llai na chanrif cyn hynny, roedd Cymro arall, John Thomas Evans wedi cael profiad gwahanol iawn o'r brodorion Americanaidd oedd yn byw ar y Gwastadeddau Mawr.

Wrth deithio i fyny'r Afon Missouri rhwng 1795 a 1797, roedd Evans yn credu bod yr Indiaid Mandan oedd yn ffermio'r tir yn ddisgynyddion o'r Tywysog Madog a'i ddilynwyr.

Er i'r brodorion synnu ei weld, bu Evans yn cyd-fyw gyda'r llwyth, a'r brodorion yn achub ei fywyd ar sawl achlysur wrth iddo ddod ar draws aelodau o lwythi gwahanol fel y Cheyennes, Arikaras a'r Hidatas wrth deithio.

Yn aml roedd Evans yn cael ei ddal gan y llwythi gwahanol, ac roedd yn rhaid cynnal trafodaethau dwys er mwyn ei ryddhau.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Treftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd un teulu Cymraeg y berthynas agos a chyfeillgar rhyngddyn nhw â llwythi y Sauk a Fox gerllaw

Wrth i'r degawdau fynd heibio, roedd sawl Cymro yn bryderus am y ffordd yr oedd y brodorion yn cael eu trin ar eu tir eu hunain.

Roedd Thomas Roberts wedi cyrraedd Wisconsin yn y 1850au ac yn pryderu am ddod i gyswllt â'r brodorion.

Ond bu'n cyd-fyw gyda nhw am sawl blwyddyn gan ddatgan: "Mae ein hofnau wedi diflannu, gyda chyfeillgarwch wedi dod yn ei le."

'Perthynas gyfeillgar'

Mewn sawl cymuned debyg, bu cydfyw heddychlon rhwng y Cymry a'u cymydogion brodorol.

Yn ôl merch o deulu Cymraeg a fagwyd yn Arvonia, Kansas, roedd ei theulu'n mwynhau "perthynas gyfeillgar iawn" gyda llwyth y Sauk a Fox gerllaw: "Roedden ni'n drist iawn wrth i lywodraeth yr Unol Daleithiau eu symud nhw i ffwrdd i'r Diriogaeth Indiaidd (talaith Oklahoma heddiw)," meddai.

Ni wnaeth pob Cymro ddaeth i'r Gorllewin fanteisio ar y "Tir Indiaidd." Fe ddaeth rhai i ledaenu'r ffydd Gristionogol a dysgu mewn "ysgolion Indiaidd." Yn anffodus, roedd profiad rhai o'r plant brodorol yn un negyddol iawn, wrth i'r ysgol eu gwahanu o'u teuluoedd a'u gwahardd rhag ddefnyddio eu hieithoedd.

Mae'n werth gofyn os cydnabodd rhai o'r Cymry oruchafiaeth Saesneg yn America, yn debyg i agwedd y Llyfrau Gleision yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Treftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr
Disgrifiad o’r llun,

Daeth rhai o'r Cymry i ledaenu'r ffydd Gristnogol a dysgu mewn "ysgolion Indiaidd." Dyma ysgol Pine Ridge gyda rhai o'r teuluoedd brodorol yn byw gerllaw

Ond, doedd profiad y Cymry â'r brodorion ddim yn negyddol i gyd.

Fe ddaeth Robert Owen Pugh o Lanfachraeth i'r Unol Daleithiau yn 1863, a gweithiodd fel ranch hand yn Nebraska cyn symud i'r Bryniau Duon yn Nhiriogaeth Dakota.

Fe ddaeth yn "Asiant Indiaidd" y llywodraeth yn Pine Ridge, reservation y Lakota. Yn 1888, fe wnaeth Pugh briodi Jennie Robinson, wyres i Blue Horse, pennaeth Oglala Lakota a ymladdodd yn erbyn Custer ym mrwydr Little Big Horn.

Teithiodd Pugh i Washington DC gyda Red Cloud ac arweinwyr eraill y llwyth er mwyn tystio o flaen y Gyngres Americanaidd am fethiant y llywodraeth i barchu cytundebau gyda'r Lakota.

Fe enillodd Pugh barch pobl ei wraig, a chael ei enwi yn Istachtonka (Llygaid Mawr) ganddyn nhw. Magodd Robert a Jennie Pugh eu dau fab ar y paith yn Ne Dakota, lle bu farw Robert yn 1922.

Yng nghanol Gogledd America, fe wnaeth ymsefydlwyr Cymreig a Brodorion Americanaidd gyfarfod ei gilydd mewn rhyfel a heddwch, fel ffrindiau a gelynion, ac mewn perthynas agos a theuluol.

Dyw'r straeon uchod ddim ond yn crafu wyneb hanes llawer dyfnach.

Hefyd o ddiddordeb: