Llafur yn addo Morlyn Abertawe a Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Labour PartyFfynhonnell y llun, Reuters

Byddai cynlluniau mawr i Gymru, gan gynnwys morlyn llanw Bae Abertawe, yn cael eu hadeiladu os ydy Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol, meddai maniffesto'r blaid.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddan nhw'n parhau gyda'r cynllun y llynedd, ond mae yna ymdrechion i'w adfywio.

Byddai Llafur hefyd yn bwrw ymlaen gydag adeiladu gorsaf niwclear Wylfa Newydd yn Ynys Môn.

Yn ogystal, mae'r maniffesto yn dweud bod y blaid wedi ymrwymo i drydaneiddio'r rheilffyrdd a'i ehangu ar draws y DU, gan gynnwys Cymru.

Fe benderfynodd y llywodraeth Geidwadol nad oedd y cynllun morlyn gwerth £1.3bn, a gafodd £200m o gefnogaeth gan weinidogion Cymru, yn cwrdd â'r "meini prawf gwerth am arian i'r trethdalwyr".

Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan wleidyddion ar draws y pleidiau, gan gynnwys y Torïaid.

Mae adeiladu'r morlyn llanw yn rhan o gynllun arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn i "drawsnewid" y DU i economi werdd, carbon isel.

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd gwmni Hitachi, datblygwyr atomfa Wylfa Newydd, eu bod nhw'n atal yr holl waith ar y cynllun oherwydd rhesymau ariannol.

Cyllideb uwch

Ar fater gwariant, dywedodd Llafur y byddai gan Lywodraeth Cymru £3.4bn yn ychwanegol i wario ar wasanaethau cyhoeddus y flwyddyn nesaf.

Mae'r maniffesto yn addo cynnydd o 23.6% i gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru - o £14.4bn i £17.8bn.

Fe fyddai'r cynnydd yn dod o ganlyniad i wariant uwch ar wasanaethau yn Lloegr, a gweinidogion yng Nghymru fyddai'n penderfynu sut i wario'r arian.

Ychwanegodd Llafur y byddai'r arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi bod yn llawer uwch oni bai am bolisi llymder.

Yn ôl y blaid, byddai cyllideb y llywodraeth £4bn yn uwch pe byddai honno wedi cynyddu gyda GDP ers 2010.

Wrth lansio ei maniffesto ddydd Mawrth, dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu 13% erbyn 2024/25 pe byddan nhw mewn grym yn San Steffan.