'Anodd' i Blaid Brexit ennill sedd yn yr etholiad

  • Cyhoeddwyd
Gethin James

Mae un o gynrychiolwyr Plaid Brexit yng Nghymru wedi cydnabod y bydd hi'n "anodd" i'r blaid ennill sedd yn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Gethin James bod etholwyr yn dychwelyd at y ddwy brif blaid ac yn "symud i ffwrdd" o bleidiau llai.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Post Cyntaf Radio Cymru, dywedodd taw Plaid Brexit yw'r unig blaid sy'n cefnogi "Brexit go iawn" ac yn cynnig y newid sydd ei angen ar y wlad.

Ond wrth ymateb i benderfyniad y blaid i beidio sefyll mewn etholaethau ble'r oedd y Ceidwadwyr yn fuddugol yn 2017, dywedodd y gallai'r blaid fod wedi bod yn "fwy strategol".

Ar ôl ennill yr etholiadau Ewropeaidd drwy Brydain ym mis Mai, mae plaid Nigel Farage wedi llithro nôl yn y polau piniwn.

Dywedodd Mr James bod y blaid yn gobeithio ennill sedd yn San Steffan ond bod hynny'n "mynd i fod yn anodd".

"Gyda'r system gwleidyddol sydd gyda ni - two-party system - mae'n anodd," meddai.

"Welon ni'n 2017 pobl yn mynd nôl i'r ddwy parti 'na [y Ceidwadwyr a Llafur] a symud i ffwrdd o'r partïon llai a fi'n credu ni yn gweld tamaid bach o hwnna eto."

Disgrifiad,

Gethin James o Blaid Brexit: 'Mae'n amser jyst gadael nawr'

Ychwanegodd bod y blaid yn ceisio ennill hyd at 10 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

"Ni yw'r unig parti sydd wirioneddol yn cefnogi Brexit go iawn," meddai'r cyn-gynghorydd sir yng Ngheredigion.

"Mae'r gwleidyddion o'r holl bleidiau eraill wedi bod yn trial tanseilio democratiaeth dros y dair blynedd diwethaf.

"Ni sy'n moyn cael clean-break Brexit a gadael pob rhan o'r Undeb Ewropeaidd."

'Dim gobaith' i'r Torïaid yn y cymoedd

Wrth ymateb i'r penderfyniad i beidio sefyll mewn etholaethau gafodd eu hennill gan y Ceidwadwyr ddwy flynedd yn ôl - gan gynnwys wyth yng Nghymru - dywedodd Mr James y gallai'r blaid fod wedi bod yn "fwy strategol".

Ond dywedodd hefyd ei fod wedi gobeithio y byddai'r Ceidwadwyr yn ad-dalu'r ffafr drwy beidio â sefyll mewn rhai o'r seddi yng nghymoedd y de ble "does dim gobaith gyda nhw".

Ymhlith polisïau'r blaid ar gyfer yr etholiad mae cyfyngu ar fewnfudiad, newid y system pleidleisio a rhoi cyfle i etholwyr arwyddo deiseb 'galw nôl' os ydy eu haelod seneddol yn ymuno â phlaid arall.

Cafodd pedwar Aelod Cynulliad Plaid Brexit eu hethol i Fae Caerdydd fel aelodau UKIP.