Etholiad 2019: Golwg ar etholaeth Torfaen
- Cyhoeddwyd

Ysbryd yr ŵyl ym Mhont-y-pŵl, sydd bellach dan gysgod Cwmbrân
Torfaen yw'r sedd fwyaf dwyreiniol ym maes glo'r de ac mae teithio drwyddi o'r gogledd i'r de fel gwers hanes ynghylch y Gymru ddiwydiannol.
Roedd safle treftadaeth Blaenafon ym mhen ucha'r etholaeth yn grud i'r chwyldro diwydiannol, ac er bod y dref yn denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, mae'n rhannu'r problemau economaidd a chymdeithasol sy'n gyffredin mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol.
Mae tref Pont-y-pŵl yng nghalon yr etholaeth a dyna'n wir oedd ei henw o'i ffurfio yn 1918 tan 1983.
Y dyddiau hyn, mae Pont-y-pŵl yn byw dan gysgod Cwmbrân, y dref newydd a sefydlwyd yn Chwedegau'r ganrif ddiwethaf.
Mae'r rhan fwyaf o'r dref honno oddi mewn i'r etholaeth ac mae ei thwf yn golygu nad yw gafael Llafur ar y cyngor lleol mor gadarn ac oedd hi ar un adeg.
Ar lefel seneddol ar y llaw arall, mae'n ffaith nodedig taw dim ond chwe Aelod Seneddol sydd wedi cynrychioli'r sedd hon ers ei ffurfiant ganrif yn ôl - y chwech ohonyn nhw'n ddynion a phob un yn aelod Llafur.

Pwy sy'n sefyll?
Morgan Bowler Brown - Plaid Cymru
Andrew Heygate-Browne - Y Blaid Werdd
John Miller - Dem. Rhydd.
Graham Smith - Ceidwadwyr
David Thomas - Plaid Brexit
Nick Thomas-Symonds - Llafur
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019