Cronfa'r glowyr: Bron yn £400,000
- Cyhoeddwyd
Clywodd Aelodau Seneddol fod cronfa sefydlwyd i gefnogi teuluoedd y glowyr fu farw ym Mhwll Gleision eisoes wedi codi bron £400,000.
Bu farw Garry Jenkins, 39, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a David Powell, 50 lifodd dwr i mewn i'r pwll yng Nghilybebyll ger Pontardawe ym mis Medi.
Wrth siarad yn sesiwn cwestiynau Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, fe dalodd llefarydd Llafur ar Gymru, Peter Hain, deyrnged i'r ymdrech i achub y pedwar, a datgelodd lwyddiant y gronfa goffa.
Dywedodd: "Mae'r gronfa ar fin cyrraedd £400,000 - ymateb anhygoel a thwymgalon gan y cyhoedd."
Ychwanegodd: "Mae yna nifer o wersi pwysig i'w dysgu o drychineb Gleision am ddyfodol diogelwch ac achub mewn pyllau glo.
"Rwy'n gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol (Cheryl Gillan) oedi cyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Lofstedt ar reolau glofaol - ymhlith sectorau eraill - fel y gall ystyried datganiad yr wyf am ei gyflwyno iddi hi a'i chydweithwyr yn y Cabinet."
Amhriodol
Mae'r adroddiad i fod i gael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Hydref, a dywedodd Mrs Gillan na fyddai'n briodol i weinidogion ohirio'r cyhoeddiad gan ei fod yn adroddiad annibynnol.
Ond ychwanegodd: "Rwy'n siŵr y bydd unrhyw wersi all gael eu dysgu o'r ymchwiliad i ddigwyddiadau trasig Pwll y Gleision gael eu cynnwys yn unrhyw argymhellion yn adroddiad yr Athro Lofstedt a fydd yn cael eu hystyried gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch."
Roedd llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi'n gynharach y byddai'n talu arian ychwanegol allai fod wedi cael ei hawlio fel Rhodd Cymorth tra bod y gronfa'n cael ei sefydlu fel elusen swyddogol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd28 Medi 2011
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011