Diffyg cymorth talu am danwydd i deuluoedd tlotaf Gymru
- Cyhoeddwyd
Cymru yw "prifddinas tlodi tanwydd Prydain," yn ôl arolwg diweddar gan y cwmni cymharu USwitch, gyda 32% o aelwydydd yn dioddef.
Nid yw'r mwyafrif helaeth o rieni yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd gwresogi eu tai'r gaeaf hwn yn derbyn y cymorth sydd ei angen gan y cyflenwyr ynni, yn ôl elusen Achub y Plant.
Mae wedi dweud bod 45,280 o deuluoedd gyda phlant yng Nghymru yn gymwys ar gyfer Taliadau Tywydd Oer ond bod nifer ddim wedi clywed na derbyn unrhyw wybodaeth am sut i wneud cais.
Mae hyn oherwydd nad yw cyflenwyr ynni wedi neilltuo digon o arian ar eu cyfer eleni, meddai Achub y Plant.
Arafu datblygiad
Dengys ymchwil bod byw mewn tŷ oer a llaith yn gallu arafu datblygiad plentyn, gwaethygu problemau iechyd tymor hir fel asthma ac arwain at fwy o gyfraddau mynediad i ysbytai.
Un sy'n siomedig gyda'r diffyg cymorth a chyngor oddi wrth gwmnïoedd ynni a'r llywodraeth yw Paul Eves, gweithiwr siop o Lyn Ebwy sy'n ennill £7,000 y flwyddyn.
"Ry'n ni wastad yn sicrhau bod dillad glân a bwyd 'da'r plant, hyd yn oed os nad oes digon i ni," meddai Paul, sy'n briod gyda dau o blant bach ac yn gorfod defnyddio mesurydd i dalu am y tanwydd.
"Mae asthma ar y bachgen hyna ond dim ond am awr y'n ni'n gallu fforddio rhoi'r gwres mlaen yn y bore a'r nos ac nid yw ein tŷ cyngor wedi ei insiwleiddio yn dda iawn. Felly mae'r lleithder yn y waliau yn ei hala fe'n dost.
"Ond mae ein cwmni ynni yn gwrthod rhoi'r £120 o gymorth i ni.
"Nid yw'n deg bod teuluoedd gyda phlant bach yn gorfod diodde fel hyn. Dylai'r llywodraeth wneud mwy i orfodi'r cwmnïau ynni i roi help i ni."
Incwm isel
Mae Achub y Plant felly yn galw ar gyflenwyr ynni a'r llywodraeth i lenwi'r bwlch ariannol ar frys fel y gall pob teulu sy'n gymwys ar gyfer y gostyngiad ei dderbyn.
Dywedodd fod angen i gwmnïau hefyd wella eu dulliau marchnata fel bod mwy o deuluoedd ar incwm isel yn ymwybodol o'r gostyngiad.
Dywedodd James Pritchard, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: "Heb y cymorth yma mae penderfyniadau amhosib yn wynebu rhieni - torri yn ôl ar fwyd, mynd i ddyled neu roi iechyd eu plant yn y fantol.
"Mae angen i'r cyflenwyr ynni roi miliynau yn ychwanegol i mewn i'r cynllun neu'r plant fydd yn talu'r pris."
Nod y mudiad yw rhoi pwysau ar y "chwe chyflenwr ynni mawr" i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys ar gyfer Taliadau Tywydd Oer yn derbyn y Gostyngiad Cartref Cynnes.
Hefyd maen nhw'n gofyn i'r holl gwmnïau ynni roi cynlluniau ar droed i drosglwyddo eu cwsmeriaid sy'n talu gyda mesurydd talu ymlaen llaw neu sydd mewn dyled gyda'u biliau i'r tariffau rhataf fel nad oes yn rhaid talu mwy na sydd ei angen.
Yn ogystal â hyn, mae Achub y Plant am i Lywodraeth Cymru integreiddio yn well eu cynlluniau, megis Arbed a Nest, gyda chynlluniau cymorth sydd ar gael ar draws y DU er mwyn sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn gallu manteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael iddynt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011