Chris Coleman yn dweud y byddai'n "hapus i olynu Speed"
- Cyhoeddwyd
Mae Chris Coleman yn dweud y byddai wrth ei fodd yn cael cyfle i olynu Gary Speed fel rheolwr nesa' Cymru.
Cafodd y cyn amddiffynnwr 41 oed ei gyfweld am y swydd yn ystod y broses arweiniodd at benodi Speed ym mis Rhagfyr 2010.
"Os ydych chi'n cael cais i hyfforddi neu reoli'ch gwlad, yna mae'n anrhydedd," meddai Coleman, sydd wedi ymddiswyddo fel rheolwr y clwb Groegaidd Larissa yr wythnos hon.
"Petai'r alwad ffôn yn dod, yna'n amlwg byddwn i'n hapus i'w derbyn."
Mae Coleman wedi gadael ei swydd yn rheoli'r clwb ail adran Larissa oherwydd trafferthion ariannol, ond roedd yn mynnu mai "cyd-ddigwyddiad llwyr" oedd yr amseru o ran y broses o chwilio am reolwr newydd i Gymru.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi sefydlu panel chwe-aelod, dan arweiniad Phil Pritchard, i benodi olynydd i Gary Speed.
'Newidiadau'
Does dim trafodaethau wedi bod eto gydag ymgeiswyr posib, yn ôl y gymdeithas, ac mae'r prif weithredwr Jonathan Ford wedi dweud ei bod yn "rhy gynnar" i ddweud a fyddai rhywun yn cael ei benodi cyn y gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica yng Nghaerdydd ar Chwefror 29.
Mae enw Ryan Giggs wedi cael ei gysylltu â'r swydd, tra bod cynorthwywyr Speed, Raymond Verheijen ac Osian Roberts, yn awyddus i barhau â'u dyletswyddau ac wedi cael cefnogaeth Gareth Bale ac aelodau eraill y garfan.
Awgrymodd Coleman, sydd wedi cael cefnogaeth y cyn chwaraewr canol cae Mickey Thomas, y byddai'n barod i gydweithio gyda'r pâr petai'n cael y swydd.
"Mae'n rhaid i unrhyw reolwr sy'n dechrau swydd newydd dorri ei gŵys ei hun," meddai.
"Peidiwch â 'nghamddeall i, os nad oes unrhyw beth o'i le does dim angen newid - ond mae pawb yn gwneud rhyw fan newidiadau.
"Byddech chi eisiau'ch pobl eich hun o'ch cwmpasa ac, os oes pobl yno'n barod yn gwneud gwaith da, byddai'n rhaid eistedd i lawr ac ystyried yr holl bosibiliadau.
"Pwy bynnag sy'n cael y swydd, bydd angen iddyn nhw benderfynu'u hunain beth maen nhw eisiau ei wneud a beth dy'n nhw ddim, a mynd 'mlaen o'r fan honno."
Mae Roberts wedi annog y gymdeithas i benodi cyn bo hir er mwyn hwyluso'r paratoadau cyn dechrau eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ym mis Medi.
'Her'
Yn ôl Coleman, sydd wedi ennill 32 o gapiau dros Gymru, mae'n gwerthfawrogi pa mor sensitif yw'r sefyllfa yn dilyn marwolaeth Speed ddiwedd mis Tachwedd y llynedd.
"Roedd Gary wedi torri ei gŵys ei hun [gyda charfan Cymru], felly mae gan bwy bynnag gaiff y swydd her i'w efelychu," meddai Coleman, fu'n chwarae gyda Speed i Gymru.
"Mae'n fwy sensitif i mi am ei fod o'n un o fy ffrindiau agosa' i o fewn pêl-droed a dwi'n dal i'w chael hi'n anodd dygymod â'r holl sefyllfa i ddweud y gwir. Dwi'n siŵr bod llawer o bobl eraill yr un fath.
"Felly mae yn eitha' sensitif. Mae'n anodd i'r gymdeithas hefyd oherwydd, os fyddan nhw'n oedi gormod, dydyn nhw ddim yn bod yn flaengar, ond os fyddan nhw'n penodi rhywun yn rhy fuan fyddan nhw ddim wedi disgwyl digon.
"Felly maen nhw mewn sefyllfa anodd. Rwy'n credu fod pawb yn deall hynny. Maen nhw wedi bod yn broffesiynol iawn ynglŷn â'r sefyllfa.
"Ond os ydych chi'n cael galwad ffôn, fel rheolwr sydd heb waith, allwch chi ddim ei ddiystyru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2011