Osian Roberts: Pryder o golli swydd gyda thîm Cymru

  • Cyhoeddwyd
Osian Roberts, Raymond Verheijen a Gary SpeedFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roberts, Verrheijen a Speed oedd tîm reholi Cymru am 12 mis

Dywedodd Osian Roberts y gallai o a'i gyd-gynorthwyydd gyda Thîm Pêl-Droed Cymru, Raymond Verheijen, fod allan o waith pan fydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn penodi olynydd i Gary Speed.

Mae'r ddau wedi cael "trafodaethau anffurfiol" gyda'r gymdeithas wrth iddyn nhw ystyried apwyntio rheolwr wedi marwolaeth Speed ym mis Tachwedd.

Ddydd Mercher daeth y newyddion y bydd y gêm rhwng Cymru a Costa Rica ar Chwefror 29 yn gêm goffa i Speed ac fe fyddai'r Gymdeithas yn dymuno gweld rheolwr newydd yn ei le erbyn hynny.

Ond mae Prif Weithredwr y Gymdeithas, Jonathan Ford, wedi dweud ei bod "yn rhy gynnar" i ddweud a fydd gan Gymru reolwr newydd erbyn hynny gan eu bod yn "nyddiau cynnar" y broses o chwilio am olynydd i Speed.

Y gêm yn erbyn Costa Rica fydd y gêm gyntaf i Gymru chwarae ers marwolaeth Speed ar Dachwedd 27.

Fe enillodd Speed ei gap cyntaf dros ei wlad yn erbyn Costa Rica ym 1990 ym Mharc Ninian, nepell o leoliad y gêm ddiweddara, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Panel penodi

Dywedodd Roberts ei fod yn "hyderus" y bydd y Gymdeithas Pêl-Droed eisiau cadw at gymaint â phosib er mwyn cadw "etifeddiaeth" Speed yn fyw.

Ond mae'n ymwybodol y gallai golli ei waith petai'r gymdeithas yn dewis rhywun o'r tu allan.

"A digon teg," meddai.

"Mae pob rheolwr eisiau gwneud yn siŵr bod ganddo ei dîm ac mae pawb yn deall y gallai hynny ddigwydd."

Fe fydd y rheolwr nesa yn cael ei benodi gan banel o chwe dyn dan arweiniad Llywydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Phil Pritchard.

Mae Roberts yn teimlo y dylai'r Gymdeithas benodi rhywun yn fuan gan fod gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 yn cychwyn ym mis Medi yn erbyn Gwlad Belg.

"Mae'r amserlen yn fyr," meddai Roberts.

"Tri chyfle sydd 'na i gael y garfan at ei gilydd cyn y gêm yna ym mis Medi.

"Mae newidiadau radical yn mynd i fod yn anodd dwi'n meddwl."

Giggs

Mae'r cyn-chwaraewr rhyngwladol, Clayton Blackmore, wedi cyfadde' mai Ryan Giggs fyddai'r dewis delfrydol i olynu Speed.

Nid dyma'r tro cyntaf i enw Giggs gael ei grybwyll gyda'r swydd.

Ryan GiggsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae enw Ryan Gioggs wedi ei gysylltu a'r swydd gan nifer

Fe ychwanegodd Blackmore fod y tîm hyfforddi wedi sefydlogi'n barod a byddai presenoldeb Giggs yn benodiad doeth wrth ochr Raymond Verheijen ac Osian Roberts.

Pe bai Giggs yn cytuno i olynu Speed yna'r tebygolrwydd yw byddai'n rhaid iddo gyfuno hynny tra'n chwarae i Manchester United, ond dydi Blackmore ddim yn rhagweld unrhyw broblem o ran cyflawni'r ddwy rôl.

Mae Verheijen, sydd wedi cynorthwyo i hyfforddi'r Iseldiroedd, Rwsia a De Korea, wedi dweud ei fod yn awyddus i barhau fel rhan o'r tîm rheoli ochr yn ochr â Roberts.

Mae Gareth Bale, un o chwaraewyr presennol Cymru, wedi dweud bod "y mwyafrif o chwaraewyr" am weld y Gymdeithas yn cadw Verheijen a Roberts, gan ychwanegu y byddai'n "gwbl wallgo'" gwneud newidiadau sylweddol i'r tîm rheoli.

Ychwanegodd Roberts y gallai'r rheolwr newydd ddod mewn a dweud ei fod am gadw at yr un drefn gan fod pethau yn mynd cystal.

"Efallai ei fod eisiau cadw cymaint o gysondeb â phosib," ychwanegodd.

"Fe allai ddod mewn a dweud ei fod eisiau newid y cyfan a gwneud pethau ei hun, sy'n ddealladwy.

"Rydan ni wedi cael trafodaeth anffurfiol gyda'r Gymdeithas ond mae'n rhaid iddyn nhw edrych ar y rheolwyr posib sydd yna.

"Am be maen nhw'n chwilio? Chwilio am brofiad rheolwr neu reolwr ifanc?

"Dwi'n hyderus y byddan nhw'n cadw cymaint o'r hyn sydd wedi ei wneud dros y 12 mis nesaf a phosib."

Fe enillodd Cymru bedair o'u pum gêm ddiwethaf o dan reolaeth Speed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol