Ramsey'n beirniadu'r Gymdeithas Bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Y cyn reolwr Gary Speed (cefndir) a'r capten Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Ramsey am i Gymru adeiladu ar etifeddiaeth Gary Speed fel rheolwr

Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, wedi dweud fod y chwaraewyr yn anhapus nad oes ymgynghori wedi bod gyda nhw am benodiad rheolwr newydd i olynu Gary Speed.

Dywedodd chwaraewr canol cae Arsenal nad yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi siarad gydag ef am y mater ers marwolaeth Gary Speed ym mis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd Ramsey: "Yn siomedig, dydyn nhw (CBDC) ddim wedi dod i gysylltiad. Dyw'r chwaraewyr eraill heb glywed dim chwaith.

"Rwyf wedi clywed bod gwledydd eraill wedi cynnal cyfarfod gyda rhai o'u chwaraewyr.

"Yn amlwg o dan yr amgylchiadau fe fyddwn i wedi meddwl y bydden nhw (CBDC) wedi siarad gyda mi a rhai o'r lleill i ofyn ein barn."

Panel penodi

Mae Ramsey'n awyddus i gynorthwywyr Speed, Raymond Verheijen ac Osian Roberts, barhau gyda'r garfan.

Mae CBDC wedi penodi panel o chwe pherson, sy'n cael ei arwain gan y llywydd Phil Pritchard, i benodi olynydd Speed.

Yn ôl y Gymdeithas, does dim trafodaethau wedi bod gydag unrhyw ymgeiswyr posib, a dywedodd y prif weithredwr, Jonathan Ford, ei bod hi'n rhy fuan i ddweud a fydd yna benodiad cyn y gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica ar Chwefror 29.

Ychwanegodd Ramsey, oedd yn siarad ar raglen BBC Radio 5 Live fore Mawrth, ei fod am warchod y cytgord a hyder yn y garfan a'u gwelodd yn ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf gan godi o 113 i 48 ar restr detholion FIFA.

'Cyfnod diddorol'

"Dydyn ni ddim am gymryd cam yn ôl eto a gweld newid mawr fyddai'n golygu chwaraewyr sydd ddim am chwarae i'w gwlad," meddai Ramsey.

"Ar hyn o bryd, mae pawb yn awyddus i chwarae ac yn mwynhau eu hunain.

"Fe fydd hi'n gyfnod diddorol i ni, ac mae'n bwysig i ni ddatgan ein barn er mwyn helpu i wneud y penderfyniad cywir fan hyn.

"Fe ddaeth Gary â nifer o staff i mewn ac roedd strwythur clir yma gyda phawb yn gwybod beth oedd angen i ni wneud."

Ond roedd seren 21 oed Arsenal yn ychwanegu na fyddai'n gwrthwynebu un o fawrion Cymru fel Ian Rush neu Ryan Giggs yn cael eu penodi'n brif hyfforddwr cyn belled nad yw'r newidiadau yn fwy sylweddol.

Rush a Giggs

Ychwanegodd Ramsey: "Rwyf wedi siarad gyda rhai o'r chwaraewyr eraill, ac mae pawb yn teimlo'r un peth ac yn credu y dylid cadw'r un staff.

"Dydyn ni ddim am weld rheolwr newydd sy'n mynd i ddod â staff cwbl newydd i mewn.

"Mae'r hyn yr ydym wedi cyflawni hyd yma yn dda iawn ac fe allwn adeiladu ar hynny, ond cadw'r un staff yw'r allwedd i'r llwyddiant yna."

"Rwyn credu y byddai rhywun fel Ian Rush - sydd wedi dweud y byddai'n arweinydd mewn enw yn unig gan gefnogi'r ffordd yr ydym yn chwarae nawr - yn ddewis da.

"Rwyn credu fod Giggs yn brofiadol iawn ac wedi cyflawni popeth fel chwaraewr, ac fe allai gynnig cyngor gwych i'r tîm."

Ymgeisydd posib arall yw Chris Coleman, sydd wedi datgan diddordeb yn y swydd.

Mae cyn hyfforddwr Fulham, Coventry a Real Sociedad hefyd wedi dweud y byddai'n fodlon gweithio gyda Verheijen a Roberts pe bai'n cael ei benodi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol