Aaron Ramsey yn ailadrodd beirniadaeth

  • Cyhoeddwyd
Gary Speed (cefndir) ac Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Ramsey am weld Cymru'n adeiladu ar etifeddiaeth Gary Speed

Dywedodd capten Cymru, Aaron Ramsey, ei fod yn dal ei dir am sylwadau beirniadol a wnaeth am Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Roedd seren Arsenal wedi dweud fod y chwaraewyr yn anhapus nad yw'r Gymdeithas wedi ymgynghori gyda nhw ynglŷn â phwy ddylai olynu Gary Speed fel rheolwr y tîm cenedlaethol.

Ar wefan Twitter dywedodd Ramsey: "Rydym newydd golli ein rheolwr a'n harweinydd oherwydd trasiedi, nid am resymau pêl-droed.

"Oherwydd hynny, fe fyddwn i wedi disgwyl i'r Gymdeithas gysylltu gyda'r chwaraewyr i gael clywed eu barn."

Mae Ramsey a nifer o chwaraewyr eraill Cymru yn awyddus i gadw Raymond Verheijen ac Osian Roberts fel rhan o'r tîm hyfforddi.

'Bwriadau gorau'

Aiff Ramsey yn ei flaen i ddweud: "Dyna fyddai'r ffordd orau ymlaen i barhau gyda'n llwyddiant diweddar ar y cae.

"O ran cael cyngor gwael wrth wneud fy sylwadau, rwy'n oedolyn sy'n gapten ar fy ngwlad, ac mae dyfodol pêl-droed Cymru yn bwysig iawn i mi.

"Ni chefais gyngor gan unrhyw un, a fyddwn i ddim angen cyngor chwaith. Fe wnes i ateb cwestiwn penodol yn onest a gyda'r bwriadau gorau, ac rwyn fodlon taro fy enw wrth y sylwadau a dal fy nhir."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penodi panel o chwech o dan arweiniad y llywydd Phil Pritchard i benodi olynydd i Gary Speed.

Coleman?

Dywed y Gymdeithas nad oes trafodaethau wedi bod gydag unrhyw olynydd posib, a dywedodd y prif weithredwr Jonathan Ford ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud os fydd olynydd yn ei le cyn y gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica ar Chwefror 29.

Ond mae adroddiad ym mhapur newydd y Daily Mail ddydd Iau yn honni fod Chris Coleman ar fin cael ei gadarnhau yn y swydd yn ddiweddarach yn y mis.

Ymddiswyddodd Coleman o'i swydd fel hyfforddwr clwb ail adran yng Ngwlad Groeg - Larissa - yn ddiweddar gan ddweud mai trafferthion ariannol oedd y rheswm am hynny.

Dywedodd mai cyd-ddigwyddiad oedd amseru ei benderfyniad.