Raymond Verheijen yn dweud bod 'angen ystyried rheolwr tramor'

  • Cyhoeddwyd
Osian Roberts, Raymond Verheijen a Gary SpeedFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Verheijen oedd dirprwy Speed ac mae'n awyddus i barhau i weithio gydag Osian Roberts

Mae Raymond Verheijen yn credu y dylai Cymru ystyried penodi rheolwr tramor am y tro cyntaf er 13 mlynedd pe bai hwnnw'n "berffaith" i barhau etifeddiaeth Gary Speed.

Verheijen oedd dirprwy Speed, ac mae'n awyddus i barhau i weithio gydag Osian Roberts fel rhan o'r tîm hyfforddi ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Mae Verheijen wedi rhybuddio Cymdeithas Bêl-Droed Cymru i beidio "troi eu cefn ar etifeddiaeth Speed" pan fyddan nhw'n penodi rheolwr nesaf y tîm cenedlaethol.

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi penodi panel o chwech o dan arweiniad y llywydd Phil Pritchard i benodi olynydd i Speed a fu farw ym mis Tachwedd.

Trafferthion ariannol

Dywed y Gymdeithas nad oes trafodaethau wedi bod gydag unrhyw olynydd posib.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jonathan Ford ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud os fydd olynydd yn ei le cyn y gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica ar Chwefror 29.

Ond roedd adroddiad ym mhapur newydd y Daily Mail ddydd Iau yn honni bod Chris Coleman ar fin cael ei gadarnhau yn y swydd yn ddiweddarach yn y mis.

Ymddiswyddodd Coleman o'i swydd fel hyfforddwr clwb ail adran yng Ngwlad Groeg - Larissa - yn ddiweddar gan ddweud mai trafferthion ariannol oedd y rheswm am hynny.

Gary Speed (cefndir) ac Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Ramsey am weld Cymru'n adeiladu ar etifeddiaeth Gary Speed

Dywedodd Verheijen: "Rydw i'n deall y bydd y Gymdeithas yn ystyried cyfleoedd i warchod hunaniaeth pêl-droed Cymru.

"Ond os oes rhaid, fe ddylen nhw benodi rhywun tramor a fyddai'n berffaith ar gyfer y swydd."

Mae cyn-amddiffynnwr Ffrainc, Marcel Desailly, oedd yn gapten y timau enillodd Gwpan y Byd ym 1998 a Phencampwriaeth Ewrop yn 2000 wedi cael ei gysylltu â swydd rheolwr Cymru.

Pencampwriaeth Ewrop

Cyflawnodd ei gymwysterau hyfforddi trwyddeda UEFA o dan oruchwyliaeth Osian Roberts ym mis Hydref 2010.

Mae Verheijen wedi cynorthwyo i hyfforddi'r Iseldiroedd, Rwsia a De Corea mewn Cwpanau Byd.

Yr unig ddau reolwr tramor i reoli Cymru yw'r Saeson, Mike Smith a Bobby Gould.

Bu Smith yn rheolwr rhwng 1974 a 1979 gan arwain y tîm cenedlaethol i rownd yr wyth olaf Pencampwriaeth Ewrop ym 1976.

Dychwelodd i reoli tîm Cymru rhwng 1994 a 1995 ac fe'i dilynwyd fel rheolwr gan Bobby Gould fu'n rheolwr am bum mlynedd dymhestlog tan 1999.

Mae asgellwr Cymru a Tottenham Hotspur, Gareth Bale wedi datgan y byddai'n "wrthun" i wneud newidiadau arwyddocaol i'r tîm rheoli ac mae'r capten, Aaron Ramsey, wedi dweud bod chwaraewyr yn anhapus nad yw'r gymdeithas wedi ymgynghori â nhw ynglŷn â'r broses penodi.

FIFA

"Y capten yw'r ffigwr ganolog i bob un o'r gwledydd rwyf wedi gweithio â nhw ac mae'n arferol i ymgynghori ag ef," meddai Verheijen.

"Mae'n bosib i ni fod ar drothwy stori dylwyth teg os bydd y gymdeithas yn diogelu'r fformiwla lwyddiannus hon.

"Ond gallai'r fformiwla lwyddiannus ddiflannu ymhen ychydig fisoedd pe bai'r gymdeithas yn penodi rheolwr newydd gyda syniadau newydd fydd yn newid y drefn."

Enillodd Cymru pedair o'u pum gêm ddiwethaf cyn i Speed farw ym mis Tachwedd y llynedd.

Casglodd y tîm cenedlaethol fwy o bwyntiau na'r un wlad arall ymysg timau pêl-droed y byd yn rhestr detholion FIFA yn 2011.

Yn ystod y flwyddyn cododd Cymru 68 safle i rif 48, olygodd fod Cymru wedi dringo mwy na'r un wlad arall yn ystod y flwyddyn.

Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014 yn erbyn Gwlad Belg ym mis Medi ac mae Verheijen yn credu eu bod "ar y trywydd iawn" i gymhwyso ar gyfer Gemau terfynol cystadleuaeth am y tro cyntaf er 1958.

"Dwi erioed wedi gweithio gyda charfan o chwaraewyr o'r un genhedlaeth â chymaint o dalent," meddai.

"Mae hyn yn allweddol i lwyddiant Cymru.

"Mae cymhwyso yn her fawr ond mae genyn ni siawns dda."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol