Taflu goleuni ar glefyd siwgr
- Cyhoeddwyd
Gall celloedd yn y corff sy'n ein hamddiffyn rhag heintiau hefyd ddinistrio celloedd sy'n cynhyrchu inswlin, yn ôl ymchwil newydd.
Mae'r astudiaeth yn cynnig tystiolaeth newydd o weithgaredd celloedd-T yn y corff, ac fe allai gynnig dealltwriaeth newydd o achosion diabetes Math 1.
Mae'r Athro Andy Sewell o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi gweithio ochr yn ochr gydag arbenigwyr clefyd siwgr o Goleg Brenhinol Llundain ar rôl celloedd-T yn natblygiad clefyd siwgr Math 1.
Roedd y tîm wedi ynysu cell-T mewn claf oedd â clefyd siwgr Math 1 er mwyn gweld y rhyngweithio molecwlar sy'n arwain at ladd celloedd cynhyrchu inswlin yn y cefndedyn.
'Rhan flaenllaw'
Dywedodd yr Athro Sewell: "Mae diabetes Math 1 yn ganlyniad o sustem imiwnedd y corff yn ymosod a dinistrio celloedd yn y cefndedyn sy'n cynhyrchu'r inswlin, sef yr hormon sy'n rheoli lefelau siwgr yn y gwaed.
"Nid ydym yn deall yn iawn y mecanwaith lle mae'r corff yn ymosod ar y celloedd yma, ond mae ein hymchwil yn dangos sut y gallai celloedd-T chwarae rhan flaenllaw mewn clefydau fel clefyd siwgr, ac rydym wedi gweld am y tro cyntaf y mecanwaith lle mae celloedd-T yn ymosod ar gelloedd eraill yn y corff."
Mae'r tîm nawr yn gobeithio cael dealltwriaeth well o'r broses, gan roi gobaith y gallan nhw ddyfeisio ffyrdd newydd o atal y clefyd.
Cafodd yr astudiaeth ei ariannu gan Gyngor Ymchwil Gwyddorau Biolegol a Biodechnoleg y DU, a'r Sefydliad Ymchwil Diabetes Pobl Ifanc.
Mae trin diabetes a'r cymhlethdodau sy'n deillio o'r clefyd yn gyfrifol am 10% o gyllideb flynyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011