Chris Coleman i drafod swydd rheolwr

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Coleman yn chwilio am waith wedi iddo roi'r gorau i fod yn rheolwr ar Larissa

Mae Chris Coleman yn dweud y bydd yn trafod swydd rheolwr Cymru gyda'r Gymdeithas Bêl-droed o fewn y dyddiau nesaf.

Mae cyn amddiffynwr Cymru, 41 oed, eisoes wedi dweud fod ganddo ddiddordeb i fod yn olynydd i Gary Speed, a'i fod yn fodlon gweithio gyda'r staff presennol.

Mae'n un o nifer o ymgeiswyr i ddenu sylw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth iddynt geisio penodi o fewn yr wythnos nesaf.

Dywedodd Coleman wrth Sky Sports: "Rwy'n bwriadu cwrdd gyda'r Gymdeithas i drafod y sefyllfa.

"Mae'n sefyllfa sensitif, ac os fyddaf yn cael cynnig y swydd ac yn ei derbyn, fe fydd teimladau cymysg i mi."

Coleman yw'r ffefryn i olynu Speed a fu farw ym mis Tachwedd y llynedd.

Amgylchiadau anodd

Ychwanegodd cyn-reolwr Fulham, Coventry a Real Sociedad: "Dydw i ddim yn credu y gallwch chi wrthod yr alwad, felly fe fydd y sgwrs yn digwydd yr wythnos yma ac fe gawn ni weld beth fydd yn digwydd.

"Yn ddelfrydol fe fyddai Gary Speed yn dal yma yn gwneud job ardderchog i'n gwlad."

Mae'r broses o benodi rheolwr newydd wedi cyflymu dros y dyddiau diwethaf wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru geisio gweithredu dan amgylchiadau anodd.

Mae dirprwy Gary Speed, Raymond Verheijen, a'r hyfforddwr Osian Roberts wedi derbyn cefnogaeth y chwaraewyr i gadw'u swyddi, gyda'r capten Aaron Ramsey yn credu'n gryf y dylai cyn lleied o newid a phosb ddigwydd.

Mae Coleman, a ymddiswyddodd fel rheolwr Larissa yn ail adran Gwlad Groeg yr wythnos ddiwethaf, eisoes wedi awgrymu y byddai fodlon gweithio gyda'r ddau.

John Hartson yw'r unig ymgeisydd arall i ddatgan ei ddyhead am y swydd er bod nifer wedi awgrymu Ryan Giggs fel yr olynydd delfrydol.

Enillodd Cymru bedair o'u pum gêm olaf o dan reolaeth Speed syn ei farwolaeth.

Bydd y gêm nesaf yn erbyn Costa Rica yng Nghaerdydd ar Chwefror 29 - gêm fydd yn cael ei chynnal er cof am Gary Speed.

Does gan gymru ddim gêm gystadleuol tan fis Medi 7 yn erbyn Gwlad Belg - un o gemau ragbrofol Cwpan Y Byd 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol