Elusen yn annog cyn-filwyr i ofyn am help

  • Cyhoeddwyd
Y Sarjant Dan Collins yn 2010Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Is-Sarjant Dan Collins o'r Gwarchodlu Cymreig ei ddarganfod yn farw Ddydd Calan

Mae elusen filwrol yn ystyried sut i annog cyn-filwyr Cymreig sy'n diodde' o anhwylder straen ôl-drawmatig i ofyn am help.

Bydd y Cadfridog Syr Kevin O'Donoghue - cadeirydd yr elusen Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA) - yn cwrdd â gwleidyddion ac arweinwyr cymunedol yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Dywedodd fod personél milwrol yn aml yn bobl falch ac yn anfodlon i ofyn am gymorth.

Cafwyd hyd i filwr a ddioddefodd o anhwylder straen ôl-drawmatig wedi'i grogi mewn chwarel yn Sir Benfro Ddydd Calan.

Dau ffrwydrad

Mae ei deulu wedi dweud bod yr Is-Sarjant Dan Collins, 29 oed o Tiers Cross ger Hwlffordd ac aelod o'r Gwarchodlu Cymreig, wedi dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig wedi iddo wasanaethu yn Afghanistan.

Dywedodd ei gariad, Vicky Roach, fod ei chymar wedi ceisio lladd ei hun yn y gorffennol.

Roedd yr Is-Sarjant yn nhalaith Helmand yn Afghanistan, lle bu farw dau o'i ffrindiau.

Llwyddodd yntau i osgoi cael ei ladd yno sawl gwaith a bu mewn dau ffrwydrad.

Dywed yr SSAFA eu bod am roi cymorth i gyn-filwyr yng Nghymru, gan nodi nad oedd llawer ohonynt yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg wedi gofyn am help.

Yn ôl y gymdeithas, mae llai na 250 o gyn-filwyr o'r ardaloedd hyn wedi cysylltu â'r elusen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r gymdeithas yn helpu mwy na 50,000 o bobl sy'n byw yn y Deyrnas Unedig yn flynyddol.

Codi ymwybyddiaeth

Mae'r cymorth hwn yn cynnwys delio â phroblemau iechyd meddwl, budd-daliadau a phensiynau.

Dywedodd y Cadfridog O'Donaghue: "Mae aelodau o'r lluoedd arfog yn aml yn bobl falch iawn ac mae'n bosib iddynt fod yn anfodlon i gael y cymorth maen nhw'n ei haeddu.

"Mae llawer ohonynt yn gorfod dygymod â chaledi ar eu pennau eu hunain.

"Rydyn ni'n gwybod bod cannoedd os nad miloedd o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a gweddill Cymru angen ein help ond dydyn nhw ddim wedi cysylltu â ni am ba reswm bynnag."

Mae gwleidyddion wedi addo codi ymwybyddiaeth o anhwylder straen ôl-drawmatig yn dilyn marwolaeth Is-Sarjant Collins.

Mae'r Aelod Seneddol, Paul Flynn, wedi dweud ei fod wedi siarad â chyn-filwr oedd yn gwybod am chwe milwr oedd wedi cyflawni hunanladdiad.

Ei fwriad e a'r Aelod Cynulliad, Darren Millar, yw gwella'r cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol