Pryder am ddiffyg heddweision mewn ardaloedd gwledig o'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryderon am nifer yr heddweision sy'n gofalu am ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru.
Yn ôl Ffederasiwn yr Heddlu, sy'n cynrychioli swyddogion, dydi rhai ardaloedd ddim yn cael y gwasanaeth haeddiannol.
Mae cynghorwyr tref ym Mhwllheli ac yn Nhywyn yn dweud eu bod nhw'n poeni hefyd, wedi i'r heddlu ad-drefnu fis Mai'r llynedd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio i'r sefyllfa ac yn dweud y byddan nhw'n cyhoeddi newidiadau wythnos nesaf.
Fe wnaeth y llu gwtogi nifer swyddi'r uwch-swyddogion ac mae wedi uno tri rhanbarth fel rhan o'r broses ad-drefnu a ddaeth i rym y llynedd er mwyn gwneud arbedion o £15 miliwn mewn llai na phedair blynedd.
'Wedi eu llethu'
Roedd y newidiadau yn golygu bod swyddogion yn ateb galwadau brys o naw gorsaf allweddol, Caernarfon, Bae Colwyn, Corwen, Dolgellau, Llangefni, Porthmadog, Yr Wyddgrug, Wrecsam a Llanelwy.
"Mae'n fater sensitif iawn dewis trefi neu bentrefi penodol," meddai Richard Eccles, ysgrifennydd cangen gogledd Cymru o'r ffederasiwn.
"Ond mae'n glir bod yna ardaloedd sydd ddim yn cael cymaint o blismona ag y maen nhw'n ei ddisgwyl.
"Dwi wedi edrych ar ôl swyddogion sydd wedi eu llethu gan y gwaith y maen nhw'n gorfod ei wneud, fel aelod o dîm bach neu unigolyn.
"Mae'r broblem yn waeth yn yr ardaloedd gwledig.
"Ac mae eu diogelwch yn bryder gwirioneddol."
Dywedodd eu bod wedi tynnu sylw'r tîm oedd yn gyfrifol am yr ad-drefnu am y problemau.
'Diodde'
Mae Henry Jones, aelod o Gyngor Tref Tywyn a chyn-Uwcharolygydd gyda Heddlu Dyfed Powys, bod cynnal llu yn anodd iawn gyda'r holl doriadau.
"Ond wedi dweud hynny, maen nhw yma i wasanaethau cymunedau a dwi'n credu bod Tywyn wedi diodde' o ran adnoddau."
Dywedodd fod y system mewn egwyddor yn iawn ond nad oedd yr adnoddau yn yr orsaf yn Nolgellau - y ganolfan agosaf at Dywyn - yn ddigonol i ardal mor eang.
Eglurodd Maer Pwllheli, Mike Parry, fod y cyngor tref wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Mark Polin, gyda'u pryderon am ddiffyg presenoldeb heddlu yn y dre.
Mae disgwyl i Mr Polin gyfarfod uwch-swyddogion dros y dyddiau nesaf i drafod newidiadau posib.
Mae llefarydd ar ran yr heddlu wedi dweud y bydd cyhoeddiad yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012