Coleman yn bwriadu perswadio Bellamy

  • Cyhoeddwyd
Craig BellamyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bellamy wedi ennill 67 o gapiau i Gymru gan sgorio 19 o weithiau

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi dweud y bydd yn cyfarfod gyda Craig Bellamy yr wythnos nesafi geisio perswadio'r ymosodwr i ymestyn ei yrfa ryngwladol.

Mae'r chwaraewr 32 oed wedi dweud y bydd yn ystyried ei ddyfodol gyda'r tîm cenedlaethol yn dilyn gêm goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica ddiwedd y mis.

Dywedodd Coleman: "Nid wyf am iddo ymddeol am fod ganddo lawer i'w gynnig o hyd.

"Siaradais gyda Craig yr wythnos ddiwethaf, a gobeithio y byddaf yn ei gwrdd un diwrnod yr wythnos nesaf.

"Roedd ganddo anaf i'w ben-glin ac mae'n rhaid i ni barchu hynny.

"Ond mae ffit iawn o hyd ac rydym am iddo fod yn rhan o'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni i adeiladu ar beth wnaeth Gary Speed.

"Rhaid i mi geisio'i ddarbwyllo i aros, oherwydd mae'n bwysig i ni gadw'n chwaraewyr gorau."

Pumed

Mae Bellamy ar ei orau ar hyn o bryd gan sgorio chwe gôl yn ei saith gêm ddiwethaf i'w glwb Lerpwl.

Mae'n bumed ar restr sgorwyr hanes Cymru gydag 19 gôl mewn 67 o geamu ryngwladol ers ei gêm gyntaf yn erbyn Jamaica ym mis Mawrth 1998.

Bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Costa Rica yng Nghaerdydd ar Chwefror 29, ac yna yn erbyn Mecsico yn Stadiwm MetLife, New Jersey ym mis Mai.

Y gêm gystadleuol nesaf fydd yr un yn erbyn Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ar Fedi 7.