Awgrymu elfen o hiliaeth yn yr ymosodiad ar Awema
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd yr elusen lleiafrifoedd ethnig, Awema, wedi awgrymu bod y feirniadaeth a gafodd yr elusen yn ddiweddar â chymhellion hiliol.
Mae'r elusen yn destun ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru, ac roedd y cadeirydd, Dr Rita Austin, yn derbyn y bydd archwiliad arall fydd yn cael ei gyhoeddi dros y dyddiau nesaf yn codi amheuon am reolaeth ariannol y sefydliad.
Daeth yr honiadau am ymddygiad brif weithredwr Awema, Naz Malik, i'r wyneb dros yr wythnosau diwethaf.
Mae Mr Malik yn dal yn ei swydd ar ôl derbyn rhybudd ysgrifenedig.
Mae'r elusen Awema yn ymdrin â £8.5 miliwn o arian cyhoeddus, gan ei ddosbarthu i grwpiau lleiafrifol ethnig ledled Cymru.
'Ymdrech fwriadol'
Ysgrifennodd cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Darren Millar AC, at Heddlu'r De yn mynnu eu bod nhw'n ymchwilio i'r mater.
Ond dywedodd Dr Austin bod "ymdrech fwriadol gan sefydliadau grymus i gymeriadu Awema fel sefydliad llygredig" a bod cymhelliad hiliol i'r ymdrechion.
Ychwanegodd bod hyn yn "ddull traddodiadol o ddiraddio a dibrisio cyfraniad pobl o leiafrifoedd ethnig".
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canlyniad archwiliad mewnol i'r elusen o fewn dyddiau, ac nid yw Dr Austin yn credu y bydd yn ganmoliaethus.
Ond ychwanegodd ei bod am weld y bwrdd a hithau yn cael cyfle i wneud newidiadau eu hunain o ganlyniad i'r adroddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012