Rhybudd Cadeirydd Y Gleision am gyflogau chwaraewyr

  • Cyhoeddwyd
Cadeirydd Gleision Caerdydd, Peter ThomasFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rhybudd gan Gadeirydd Y Gleision am gyflogau chwaraewyr

Mae Cadeirydd Gleision Caerdydd, Peter Thomas, yn dweud bod nifer o chwaraewyr yn annhebygol o gael cytundebau newydd pan ddaw'r tymor presennol i ben.

Mae o hefyd yn rhybuddio y dylai'r rhai hynny a fydd yn aros, ddisgwyl cael cynnig cytundebau gwahanol iawn yn y dyfodol.

Daw hyn wrth i'r rhanbarthau gwtogi ar wariant.

Rhybuddiodd Mr Thomas hefyd na allai rhanbarthau Cymru dalu cyflogau'r prif chwaraewyr yn y dyfodol pan fyddan nhw ar ddyletswydd rhyngwladol.

Mae'r pedwar rhanbarth eisoes wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n gwario dros £3.5 miliwn ar eu carfan.

Dywed Mr Thomas bod incwm yn gostwng ac felly bod angen i Gymru a gwledydd eraill dalu cyflogau pan mae'r chwaraewyr gyda nhw.

Mae Mr Thomas hefyd wedi cadarnhau y bydd gemau darbi Cymru yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi i'r rhanbarth chwarae dwy gêm o fewn wyth niwrnod ym Mharc yr Arfau.

Y gêm nos Wener oedd yr ail yn olynol i'r rhanbarth ei chwarae yn eu hen gartref.

Mae gan y rhanbarth gytundeb 20 mlynedd gyda Stadiwm Dinas Caerdydd ers iddyn nhw symud yno tri thymor yn ôl.

Fe fydd rhagor o gemau'n cael eu chwarae yng nghanol y ddinas yn y dyfodol.

Ond ar gyfer y gemau mawr bydd Y Gleision yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ôl Mr Thomas.

Mae nifer y cefnogwyr yno wedi bod yn isel dros y misoedd diwethaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol