Rhybudd Peter Hain am gynghorwyr annibynnol sy'n 'Geidwadwyr cudd'

  • Cyhoeddwyd
Peter HainFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Peter Hain yn rhybuddio mai 'ymgeiswyr annibynnol' yw'r her fwya i Lafur

Wrth annerch cynhadledd wanwyn Llafur Cymru, mae llefarydd yr wrthblaid ar Gymru wedi ymosod ar gynghorwyr annibynnol.

Roedd Peter Hain yn honni bod nifer ohonyn nhw yn "Geidwadwyr cudd".

Rhybuddiodd ei blaid eu bod yn wynebu "ton o gynghorwyr annibynnol honedig" yn yr etholiadau fis Mai.

Mae'r gynhadledd yn Stadiwm Swalec Caerdydd yn cael ei gweld fel cychwyn eu hymgyrch ar gyfer ad-ennill nifer o seddi cyngor a gollwyd gan Llafur yn etholiadau 2008.

Y pryd hynny collodd y blaid afael ar bob awdudod namyn dau.

Mewn nifer o ardaloedd, ymgeiswyr annibynnol sy'n cael ei weld fel y prif wrthwynebwydd i Lafur yn hytrach nag ymgeiswyr Ceidwadol, Plaid Cymru neu Ddemocratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Mr Hain mai'r hyn fydd yn wynebu ymgeiswyr Llafur ymhen rhai misoedd yw "ymgeiswyr annibynnol sydd heb faniffesto, dim cynllun, dim syniad - nifer ohonyn nhw yn Geidwadwyr cudd".

"Roedden nhw'n gwybod na fyddan nhw fyth yn cael eu hethol wrth wisgo'r rhosyn glas.

"Rydym angen i'r cynghorwyr Llafur wneud popeth posib i warchod ein cymunedau rhag toriadau Llywodraeth Geidwadol a sefyll dros ein trefi a'n dinasoedd.

"Dwi'n dweud wrthoch chi - all y cynghorwyr annibynnol honedig, ddim gwneud hynny."

Ar wefan Twitter dywedodd AS Plaid Cymru Jonathan Edwards mai clymblaid Llafur a chynghorwyr annibynnol sy'n arwain ei gyngor lleol.

"Maen nhw mewn clymblaid gyda'r 'Ceidwadwyr cudd' yng Nghaerfyrddin," meddai.

Beirniadu Gillan

Ond fe wnaeth y Blaid Lafur ymateb yn ôl gan ddweud nad pob cynghorydd annibynnol sy'n "Geidwadwr cudd".

Roedd hefyd yn feirniadol o Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

Fe wnaeth Arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones, ac Arweinydd y blaid, Ed Miliband, ymosod ar Ms Gillan ddydd Sadwrn gan honni bod ganddi "fwy o ddiddordeb yn yr effaith posib y byddai cysylltiad rheilffordd cyflym yn ei gael ar ei hetholaeth yn Sir Buckingham nag ar y problemau sy'n wynebu Cymru".

"Dydi hi ddim yn anodd cysgodi Ysgrifennydd Gwladol sydd ddim i'w weld yn gwneud llawer dros Gymru: mae hi'n llawer rhy brysur yn rhywle arall, yn atal trenau, tyllu am dwneli a gwerthu tai yn ei hetholaeth," meddai Mr Hain.

"Dydi hi ddim yn Ysgrifennydd Cymru, mae hi'n wrth-Ysgrifennydd Cymru.

"Ond yr hyn y mae hi, ei chyd-Geidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn ei wneud i'r mwya' bregus yng Nghymru, sy'n fy ngwylltio i fwya'," ychwanegodd.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Ms Gillan nad oedd gan y cyhoeddd ddiddordeb yn ymosodiadau personol fel yma a bod hyn yn awgrymu nad oedd gan y Blaid Lafur feirnaidaeth ar bolisiau'r Ceidwadwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol