Hain yn wynebu cyhuddiad?

  • Cyhoeddwyd
Peter HainFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

'Dwi'n synnu'n fawr at yr hyn sy wedi digwydd,' meddai Peter Hain.

Fe allai cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wynebu cyhuddiad o ddirmygu llys wedi iddo feirniadu barnwr yn ei hunangofiant.

Mae John Larkin, Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, wedi rhoi caniatâd i erlyn Mr Hain a chyhoeddwyr y llyfr, cwmni Biteback.

Roedd honiad bod adran yn yr hunangofiant "yn tanseilio gweinyddu cyfiawnder".

Dywedodd Mr Hain, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon am gyfnod, fod y newyddion wedi ei syfrdanu.

Fe fydd adolygiad o'r achos yn Llys Adrannol Belffast ar Ebrill 24.

Mae'r cyhoeddwyr wedi dweud y byddai unrhyw gyhuddiad wedi ei seilio ar ddeddf "hynafol" oedd yn gwahardd beirniadu barnwyr.

Roedd Mr Hain wedi gwneud sylw am sut y deliodd yr Arglwydd Ustus Girvan ag achos.

'Yn synnu'n fawr'

"Dwi'n synnu'n fawr at yr hyn sy wedi digwydd," meddai.

"Fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon gweithiais i'n galetach na neb arall wrth gynnal y gyfraith ac annibyniaeth farnwrol ...

"Os yw rhyddid barn yn cael ei atal, bydd hawl gan bobol i ofyn: 'Pa fath o gyfiawnder sy'n bodoli?'"

Dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus Syr Declan Morgan fod ei sylwadau "yn ymosodiad o bosib ar annibyniaeth ehangach barnwyr".

Mae rheolwr gyfarwyddwr y cyhoeddwyr, Iain Dale, wedi dweud: "Dwi wedi cael cyngor bod achosion fel hyn am feirniadu barnwyr yn hynafol ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

"Fel cyhoeddwr dwi'n cefnogi rhyddid barn yn fawr iawn ..."

Cyn cyhoeddi, meddai, roedden nhw wedi anfon y llawysgrif at y Swyddfa Gabinet a Swyddfa Gogledd Iwerddon.