Henson yn ymddiheuro ar ôl i'r Gleision ei wahardd wedi honiadau o gamymddwyn
- Cyhoeddwyd
![Gavin Henson [canol]](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/304/mcs/media/images/59419000/jpg/_59419390_cdf_240212_munster_v_blues_10.jpg)
Fe fydd rheolwr Y Gleision yn cyfarfod ddydd Llun i drafod gwaharddiad Gavin Henson ymhellach
Mae Gavin Henson wedi cyhoeddi datganiad sy'n ymddiheuro am ei ymddygiad wedi taith awyren o'r Alban.
Daw'r ymddiheuriad ar ôl i'w glwb, Gleision Caerdydd, ei wahardd wedi honiadau o gamymddygiad ar daith awyren yn gynnar bore Sadwrn o Glasgow.
Roedd Henson yn eilydd i'r Gleision nos Wener pan wnaethon nhw golli yn erbyn Glasgow o 31-3.
Yn ei ddatganiad ddydd Sul dywedodd y chwaraewr 30 oed, ei fod yn ymddiheuro am yfed ac o ymddwyn yn "amhriodol" ar y daith awyren.
Mae o hefyd wedi dweud ei fod yn "cywilyddio am yr hyn ddigwyddodd".
Yn eu datganiad nos Sadwrn fe wnaeth Y Gleision gyhoeddi bod y gwaharddiad yn cychwyn yn syth.
"Gall Gleision Caerdydd gadarnhau bod Gavin Henson wedi cael ei wahardd, a hynny yn syth, wedi digwyddiad ar daith yn ôl o'r Alban wedi gêm yn erbyn Glasgow nos Wener."
Fe fydd rheolwyr Y Gleision yn cyfarfod ddydd Llun "i drafod y mater ym mhellach".
Mae'r cwmni teithio Flybe hefyd yn cynnal ymchwiliad.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni awyren: "Mewn cysylltiad â thaith BE3431 o Glasgow i Gaerdydd ar Fawrth 31, gall Flybe gadarnhau eu bod yn casglu gwybodaeth gan eu staff yn ogystal â staff yn y ddau faes awyr.
"Fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."
Absenoldeb
Fe wnaeth Henson arwyddo cytundeb wyth mis gyda'r Gleision ym mis Hydref ar ôl i glwb Toulon yn Ffrainc ddewis peidio ymestyn ei gytundeb ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Mae Henson, sydd wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith gyda Chymru, wedi methu a sicrhau lle cyson mewn timau ers anafu ei ffêr ym mis Mawrth 2009.
Pum mis yn ddiweddarach fe wnaeth o gymryd 18 mis o absenoldeb di-dâl o'r Gweilch.
Ymunodd a thîm y Saraseniaid ym mis Hydref 2010 gan chwarae pedair gêm yn unig cyn iddo wneud cais i ddod a'i gytundeb i ben er mwyn iddo allu ymuno â Toulon.
Sgoriodd gais ym muddugoliaeth y tîm yn erbyn Stade Francais ar ei ymddangosiad cyntaf cyn cael ei wahardd am gyfnod byr, dolen allanol am dorri cod ymddygiad y clwb.
Ond cafodd y gosb ei godi wedi ymchwiliad mewnol.
Ers symud yn ôl i Gymru mae o wedi chwarae wyth gêm ond dyw e ddim wedi sgorio cais.
Chwaraeodd dros Gymru ddiwethaf ym muddugoliaeth Cymru, dolen allanol yn erbyn Lloegr o 19-9 yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Awst.
Roedd anaf i'w arddwrn yn golygu nad oedd modd iddo chwarae ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd yn Seland Newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011