Dim lle eto i Gavin Henson
- Cyhoeddwyd

Fydd Gavin Henson ddim yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r Gleision wedi'r cwbl
Fydd Gavin Henson ddim yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r Gleision nos Wener wedi'r cwbl.
Roedd rhai wedi darogan y byddai yn y tîm yn wynebu Caeredin yng Nghwpan Heineken.
Mae'r Gleision wedi gwneud un newid i'r tîm enillodd yn erbyn Caeredin y penwythnos diwethaf, gyda Gavin Evans ar yr asgell yn lle Alex Cuthbert.
Bydd rhaid i Henson aros tan o leiaf ddydd Gwener nesa' cyn cael cyfle i chwarae pan fydd y Gleision yn croesawu'r Dreigiau yng Nghynghrair y Pro12.
Mae'r Gleision yn gobeithio am fuddugoliaeth arall yng Nghwpan Heineken ar ôl curo Racing Metro, Y Gwyddelod yn Llundain a Chaeredin.
Cafodd Henson ei anafu wrth chwarae i Gymru yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Awst ac fe arwyddodd i'r Gleision wedi iddo chwarae i Toulon a'r Saraseniaid y tymor diwethaf.
Roedd y Gleision yn fuddugol yn erbyn Caeredin o 25-8 yr wythnos ddiwethaf ac ar frig Grŵp 2 yng Nghwpan Heineken.
Ond byddai buddugoliaeth i Gaeredin nos Wener yn golygu eu bod yn disodli'r tîm o Gaerdydd ar frig y grŵp.
MANYLION TIMAU :
Caeredin: Chris Paterson, Lee Jones, Nick De Luca, James King, Tim Visser, Greig Laidlaw (capten), Mike Blair, Allan Jacobsen, Ross Ford, Geoff Cross, Grant Gilchrist, Sean Cox, David Denton, Roddy Grant, Netani Talei.
Eilyddion: Steven Lawrie, Kyle Traynor, Jack Gilding, Esteban Lozada, Ross Rennie, Phil Godman, Matt Scott, Tom Brown.
Gleision: Leigh Halfpenny; Gavin Evans, Casey Laulala, Jamie Roberts, Chris Czekaj; Dan Parks, Lloyd Williams; Gethin Jenkins, Rhys Thomas, Taufa'ao Filise, Bradley Davies, Paul Tito (capten), Michael Paterson, Sam Warburton, Xavier Rush.
Eilyddion: Ryan Tyrell, John Yapp, Scott Andrews, Josh Navidi, Maama Molitika, Richie Rees, Ceri Sweeney, Dafydd Hewitt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011