'Mae'r Malvinas yn perthyn i ni'
- Cyhoeddwyd
Wrth baratoi rhaglen materion cyfoes Taro Naw fe siaradais i â disgynyddion rhai o'r ymfudwyr cyntaf o Gymru am eu hagwedd nhw at yr ynysoedd y maen nhw'n eu galw'n las Malvinas.
Yn ystod Rhyfel y Falklands roedd milwyr o Gymru ym Myddin Prydain yn ymladd yn erbyn milwyr o dras Gymreig ym Myddin yr Ariannin.
Yn ôl yr hen ddihareb, mae gwaed yn dewach na dŵr - ond a oedd hyn yn wir yn achos y rhyfel?
Mae cerflun ym mhentre' Tecka wrth ymyl y ffordd fawr rhwng Trelew yn y dwyrain a Chwm Hyfryd yn y gorllewin.
Cofeb yw hi sy'n cofnodi aberth Ricardo Andres Austin - yr unig filwr o dras Gymreig yn rhengoedd yr Archentwyr i gael ei ladd yn y rhyfel.
Roedd yn or-ŵyr i Thomas Tegai Awstin, bachgen o Aberpennar yng Nghwm Cynon a deithiodd i'r Wladfa ar y Mimosa yn 1865.
Ac yntau'n 18 oed, cafodd Andres Austin ei gonsgriptio i Fyddin Ariannin. Cyn hynny, gweithio'r tir ar ffermydd ger Tecka oedd e. Doedd e erioed wedi gadael ei filltir sgwâr cyn cael ei alw i'r Fyddin.
Ymhen deufis roedd wedi cyrraedd yr ynysoedd. Lai na deufis yn ddiweddarach cafodd ei ladd ym mrwydr Goose Green.
'Teimlo'n ofnadwy'
Fe es i i gartref ei fam yn Tecka, tŷ taclus mewn pentref dilewyrch. Yno mae Celinda Espinoza wedi cysegru ystafell er cof am ei mab - lluniau ohono'n gorchuddio'r wal, y mab a gladdwyd mewn bedd dienw.
"Es i chwilio am ei fedd", meddai Celinda wrtha i mewn llais gwan. "Ond roedden nhw i gyd yn ddienw. Y cyfan a oedd wedi'i ysgrifennu arnyn nhw oedd 'Milwr y mae Duw yn unig yn ei adnabod.' Ro'n i'n teimlo'n ofnadwy, yn wael, yn wael."
"Mwy o bryfocio, dyna beth mae'r britanicos yn gwneud yn dda," meddai llais cryf Billy Hughes yn y Gaiman yn ymateb i'r penderfyniad i anfon y Tywysog William i wasanaethu ar yr ynysoedd ychydig cyn nodi 30 mlynedd ers y rhyfel.
Roedd Billy wedi gorffen ei wasanaeth milwrol erbyn dechrau'r rhyfel. Serch hynny, roedd yn disgwyl cael galwad gan y Fyddin i fynd i'r ynysoedd.
"O'n i'n barod i fynd i ymladd, yn wir. O'n i'n meddwl y baswn i'n cael galwad i fod yn onest."
Gofynnais iddo a oedd yn gobeithio cael ei alw. "Baswn i wedi mynd i'r Malvinas yn hapus," oedd yr ymateb.
Roedd Billy yn datgan barn sy'n cael ei rhannu gan lawer o siaradwyr Cymraeg Patagonia.
Er gwaetha'r ffaith eu bod yn rhannu iaith gyda nifer o filwyr a oedd yn ymladd ym Myddin Prydain, Archentwyr ydyn nhw ac mae eu hagwedd at yr ynysoedd yn gefnogol iawn i Arlywydd Ariannin, Cristina Fernandez de Kirchner.
Mae hi wedi dweud y dylid eu dychwelyd. Mae gwledydd eraill De America yn ei chefnogi ac mae'r Ariannin wedi mynd â chwyn i'r Cenhedloedd Unedig.
'Son Argentinas'
Mae cymydog Billy yn y Gaiman o'r un farn ag e. Yn ôl Ricardo Iriani, dyw'r ffaith ei fod yn medru'r Gymraeg ddim yn newid ei safbwynt o gwbwl ynglŷn â'r ynysoedd y mae e'n eu galw'n las Malvinas.
"Dw i'n caru'r traddodiad a'r hanes o Gymru ond, wrth gwrs, dw i'n Archentwr gant y cant ac mae'r Malvinas yn perthyn i ni. Las Malvinas son Argentinas!"
Yn bell o'r Gaiman ond yn rhan fawr o'r Wladfa Gymreig, yn Nhrefelin wrth droed yr Andes, mae Mary Green yn byw.
Mae hi wedi ei chadeirio yn Eisteddfod y Wladfa ac yn ystyried ei hun yn Archentwraig. Dywedodd ei bod hi'n cofio'r rhyfel gyda thristwch, yn enwedig wrth feddwl am y milwyr ifanc o dras Gymreig yn rhengoedd yr Ariannin a'r Cymry fu'n ymladd yn eu herbyn o dan faner Prydain.
"Roedd yn beth trist ofnadwy oherwydd nid Cymry oedd yn hawlio unrhyw beth drostyn nhw eu hunain, nage, ond Saeson, os rhywun, ac roedd yn biti ofnadwy fod y Cymry wedi dod i fan hyn i ryfela a diodde' yn ein rhan ni o'r byd. Peth trist hollol. Diflas hollol.
"O'r byd mawr sydd ohoni ychydig bach ydyn ni fan hyn ac ychydig iawn ydy Cymru, eu bod yn dod i ryfela ar ryw ynys fach ... mae'n od mewn ffordd bod hynny wedi digwydd o gwbwl.
"Ond nid yr unigolyn sy'n penderfynu, nage, ond y llywodraeth sy'n gyrru'r milwyr. Mae'n biti."
Bydd mwy ar raglen Taro Naw BBC Cymru ar S4C nos Fawrth, Ebrill 3, am 9pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011