Arolwg: 7,000 yn fwy ar y clwt 'erbyn diwedd yr haf'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd 7,000 yn fwy o bobl yn ddi-waith yng Nghymru erbyn diwedd yr haf, yn ôl arolwg gan sefydliad ymchwil.
Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) hefyd yn rhagweld y bydd y sefyllfa ar ei gwaetha ym mis Medi.
Mae'n beio'r adferiad economaidd araf am y cynnydd.
Yn ôl yr IPPR fe fydd 100,000 o bobl yn colli eu swyddi yn y Deyrnas Unedig yn ystod y chwe mis nesaf, a fydd diweithdra ddim yn gostwng tan fis Medi 213.
'Adferiad arafaf erioed'
Mae'r IPPR yn honni y bydd dros 40,000 o'r rheiny fydd yn colli eu gwaith yn y DU o dan 25 oed.
Dywedodd Richard Darlington o'r IPPR: "Rwy'n ofni y bydd y sefyllfa'n gwaethygu cyn iddi wella.
"Y rhagamcaniad yw y bydd diweithdra yn cyrraedd ei uchafbwynt ar ddiwedd yr haf ond ni fydd yn dechrau syrthio tan ddiwedd haf 2013.
"Eisoes rydym yn dioddef y dirwasgiad hiraf yn hanes Prydain.
Hwn fydd yr adferiad arafaf erioed o ran yr economi ac fe fydd pobl yn dal i golli eu swyddi pan fydd yr economi yn dechrau tyfu eto.
"Mae angen i lywodraethau roi cefnogaeth i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers dros flwyddyn."
'Her fawr'
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gwerth £75m gyda'r nod o greu 12,000 o gyfleoedd gwaith newydd yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.
Nod Twf Swyddi Cymru yw creu cyfleoedd gwaith newydd i bobl ifanc ddi-waith, 16-24 oed, am gyfnod o 6 mis a rhoi'r cyfle i fusnesau ehangu a gwneud y swyddi hynny'n rhai parhaol.
Caiff y bobl ifanc eu talu ar sail yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'n uwch am o leiaf 25 awr yr wythnos.
Rhaglen yw hon ar gyfer y rheini sy'n barod am waith ond heb allu dod o hyd i swydd.
Yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau, ym mis Mawrth roedd 1,000 yn fwy o bobl yn ddi-waith yng Nghymru yn ystod y tri mis cynt o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.
Roedd nifer y bobl oedd heb swydd rhwng mis Tachwedd a diwedd mis Ionawr wedi codi i 134,000, sy'n cyfateb i 9.1% o'r gweithlu.
Dywedodd y swyddfa mai 8.4% oedd graddfa ddiweithdra y DU.
Mae'r IPPR yn rhagweld mai Gogledd Orllewin Lloegr, Gogledd Ddwyrain Lloegr, Llundain, Swydd Efrog fydd yn gweld y cynnydd mwyaf mewn diweithdra.
Ond maen nhw hefyd yn rhagweld y bydd mwy o swyddi yn cael eu creu mewn ardaloedd fel Gorllewin Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon a De Orllewin Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU: "Mae 'na arwyddion calonogol fod y farchnad lafur yn sefydlogi ond mae 'na her fawr o'n blaenau i ostwng diweithdra."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2012